Skip to main content

Ein haddewid i chi

Mae Gofal Canser Tenovus yn addo parchu a gofalu am yr holl ddata personol rydych chi'n ei rannu gyda ni, neu unrhyw ddata rydyn ni'n ei gael gan sefydliadau eraill. Byddwn bob amser yn ei gadw'n ddiogel. Ein hamcan yw nodi’n glir pan fyddwn yn casglu eich data a phryd y byddwn yn ei ddefnyddio, a pheidio â gwneud unrhyw beth na fyddech yn rhesymol yn ei ddisgwyl. Ni fyddwn fyth yn gwerthu eich data personol i sefydliadau eraill, a dim ond mewn amgylchiadau priodol, cyfreithiol neu eithriadol y byddwn yn ei rannu. Gweler Adran 4 am fwy o wybodaeth.

Mae datblygu gwell dealltwriaeth o'n cefnogwyr trwy eu data personol yn golygu y gallwn wneud penderfyniadau gwell, codi arian yn fwy effeithlon ac, yn y pen draw, ein helpu i gyrraedd ein nod o gefnogi cleifion canser a'u hanwyliaid.

Rydym yn gweithredu polisi Marchnata Uniongyrchol 'optio i mewn', sy'n golygu y byddwn yn anfon cyfathrebiadau marchnata atoch dim ond os ydych wedi optio i mewn, neu os ydym yn teimlo bod rheswm dilys i ni gysylltu â chi (gweler adran 3 am fwy o wybodaeth ar Fuddiant Cyfreithiol). Pan rydych chi’n dewis i optio i mewn i gyfathrebiadau marchnata, byddwn yn gofyn ichi sut yr hoffech glywed gennym er mwyn i ni gysylltu â chi trwy'r sianelau rydych yn eu ffafrio.

Mae ein cyfathrebiadau marchnata yn cynnwys gwybodaeth am ein gwasanaethau, ymchwil, gwirfoddoli, ymgyrchoedd a gweithgareddau codi arian. Os hoffech dderbyn y wybodaeth hon, ond nad ydych wedi optio i mewn eto, ffoniwch ni ar 029 2076 8850, anfon e-bost atom: preferences@tenovuscancercare.org.uk neu glicio yma

 

1. O ble rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi

Rydym yn casglu gwybodaeth drwy’r dulliau canlynol:

Pan rydych chi’n ei roi i ni yn UNIONGYRCHOL

Efallai y byddwch chi'n rhoi eich gwybodaeth i ni er mwyn cofrestru ar gyfer un o'n digwyddiadau, rhannu eich stori, cyfrannu arian, prynu ein cynnyrch neu wirfoddoli gyda ni. Weithiau pan fyddwch chi'n ein cefnogi, mae'ch gwybodaeth yn cael ei chasglu gan sefydliad sy'n gweithio i ni (e.e. asiantaeth codi arian broffesiynol), ond rydyn ni bob amser yn gyfrifol am eich data.

Pan rydych chi’n ei roi i ni yn ANUNIONGYRCHOL

Efallai bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu â ni gan drefnwyr digwyddiadau annibynnol, er enghraifft Marathon Llundain neu wefannau codi arian fel JustGiving neu Virgin Money Giving. Bydd y trydydd partïon annibynnol hyn dim ond yn cadw eich data os ydych wedi nodi eich bod yn hapus iddynt wneud. Dylech wirio eu Polisi Preifatrwydd pan fyddwch chi'n rhoi eich gwybodaeth i ddeall yn llawn sut y byddant yn prosesu'ch data.

Pan rydych chi’n rhoi caniatâd i SEFYDLIADAU ERAILL ei rannu

Efallai eich bod wedi rhoi caniatâd i gwmni neu sefydliad arall rannu eich data â thrydydd partïon, gan gynnwys elusennau. Gallai hyn fod wedi digwydd wrth brynu cynnyrch neu ddefnyddio gwasanaeth, cofrestru ar gyfer cystadleuaeth ar-lein neu gofrestru gyda gwefan cymharu.

Yn dibynnu ar eich gosodiadau neu bolisïau preifatrwydd ar gyfer eich cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau negeseuo fel Facebook, WhatsApp neu Twitter, efallai y byddwch wedi rhoi caniatâd i ni gyrchu gwybodaeth o'r cyfrifon neu'r gwasanaethau hynny.

Efallai y bydd y wybodaeth a gawn gan sefydliadau eraill yn dibynnu ar eich gosodiadau preifatrwydd neu'r ymatebion a roddwyd gennych, felly dylech eu gwirio yn rheolaidd.

Pan ei fod AR GAEL YN GYHOEDDUS

Gall hyn gynnwys gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan Companies House a gwybodaeth sydd wedi'i chyhoeddi mewn erthyglau / papurau newydd.

Efallai y byddwn yn cyfuno gwybodaeth rydych chi'n rhoi i ni â gwybodaeth sydd ar gael o ffynonellau allanol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'n cefnogwyr i wella ein metcodau, cynhyrchion a gwasanaethau codi arian.

Pan rydyn ni’n ei gasglu wrth i chi ddefnyddio ein GWEFANNAU NEU APIAU (ein polisïau cwcis)

Fel y mwyafrif o wefannau, rydyn ni'n defnyddio “cwcis” i'n helpu ni i wella ein gwefan, a'r ffordd rydych chi'n ei defnyddio. Mae cwcis yn golygu y bydd gwefan yn eich cofio. Ffeiliau testun bach ydyn nhw ac mae gwefannau yn eu trosglwyddo i'ch cyfrifiadur (neu ffôn neu dabled). Maen nhw'n gwneud rhyngweithio â gwefan yn gyflymach ac yn haws - er enghraifft trwy lenwi'ch enw a'ch cyfeiriad yn awtomatig mewn meysydd testun. Maent hefyd yn ein helpu i sicrhau eich bod yn gweld y cynnwys mwyaf perthnasol ar draws ein sianeli, ac yn ein helpu i fesur pa mor effeithiol yw ein cyfathrebiadau.

Ar ein gwefan rydym yn defnyddio cod olrhain Google Analytics i gefnogi Google Advertising, yn benodol ar gyfer Ail-farchnata ac Adroddiadau Demograffeg Google Analytics.

Gallwch optio allan o Google Analytics sy’n adrodd ar eich diddordebau hysbysebu gan ddefnyddio Gosodiadau Google Ads yma.

Rydym hefyd yn defnyddio cod cynulleidfa benodol gan Facebook sy'n ein helpu i greu hysbysebion Facebook sydd mor berthnasol â phosib. Ni fydd modd i ni eich adnabod o’r wybodaeth hon.

Yn ogystal â hyn, gall cwcis ddweud wrthym ba fath o ddyfais rydych chi'n ei defnyddio i gael mynediad i'n gwefan neu apiau a gosodiadau’r ddyfais honno sy’n darparu gwybodaeth gan gynnwys pa fath o ddyfais ydyw, pa system weithredu rydych chi'n ei defnyddio, beth yw gosodiadau eich dyfais, a pham bod crash wedi digwydd. Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i ddeall sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan a sut i'w gwella.

Bydd gan wneuthurwr eich dyfais neu ddarparwr eich system weithredu fwy o fanylion ynghylch pa wybodaeth y mae eich dyfais yn cynnig i ni.

Nid yw defnyddio cwcis yn rhoi mynediad inni i'ch cyfrifiadur, ac ni ellir eu defnyddio i adnabod unigolyn.

2. Pa ddata personol rydym yn ei gasglu

Mae math a chyfanswm y wybodaeth rydym yn ei chasglu yn dibynnu ar pam rydych chi'n ei darparu. Os ydych chi'n ein cefnogi ni, er enghraifft, drwy wneud rhodd, gwirfoddoli, codi arian, cofrestru ar gyfer digwyddiad neu brynu rhywbeth o'n siop ar-lein, byddwn fel arfer yn casglu’r wybodaeth ganlynol :.

  • Eich enw
  • Eich manylion cyswllt
  • Eich dyddiad geni

Lle bo’n berthnasol, mae’n bosib y byddwn ni hefyd yn gofyn am y canlynol:

  • Gwybodaeth ynghylch eich iechyd
  • Gwybodaeth sy’n berthnasol i’r gwasanaethau cymorth rydych eisiau eu defnyddio
  • Eich manylion banc neu gerdyn credyd
  • Pam rydych wedi penderfynu ein cefnogi. Does dim rhaid ateb y cwestiwn hwn oni bai eich bod yn gyfforddus gwneud.
  • Caniatâd rhiant os ydych chi o dan 16 oed
  • Manylion eich perthynas agosaf
  • Gwiriadau diogelwch

Byddwn ni dim ond yn gofyn am wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddarparu'r gwasanaeth, gwybodaeth neu'r weinyddiaeth rydych chi wedi gofyn amdani.

Data Plant

Os a phryd y byddwn yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth gan blant, ein nod yw ei rheoli mewn ffordd sy'n briodol i oedran y plentyn.

Os yw plentyn o dan 16 oed byddwn yn gofyn am ganiatâd rhiant neu warcheidwad cyn casglu ei wybodaeth. Mae gan ein digwyddiadau reolau penodol ynghylch cyfraniad plant, a byddwn yn sicrhau bod hysbysebu ar gyfer y digwyddiadau hynny yn briodol i'w hoedran.

3. Sut rydym yn defnyddio’r data personol rydym yn ei gasglu

Mae sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth yn dibynnu ar pam rydych chi'n ei darparu. Byddwn yn defnyddio'ch data yn bennaf ar gyfer y canlynol:

I ddarparu gwasanaethau, cynhyrchion neu wybodaeth rydych chi wedi gofyn amdanyn nhw

Rydym yn cynnal gwasanaethau i gefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser, a mentrau iechyd a lles. Gall y wybodaeth rydym yn ei chasglu er mwyn darparu'r rhain ymwneud a materion sensitif fel iechyd, ffordd o fyw, amgylchiadau ariannol neu hanes teulu.

Bydd mynediad i'r data hwn bob amser ar gael i unigolion priodol sydd â diddordeb dilys mewn defnyddio ein gwasanaethau.

Rydym hefyd yn casglu data os ydych chi am gymryd rhan mewn digwyddiad neu weithgaredd codi arian, gwirfoddoli, gweithio gyda ni neu eisiau cyfrannu atom.

Os ydych yn nodi eich manylion ar un o'n ffurflenni ar-lein, ac nad ydych yn 'anfon' neu'n 'cyflwyno' y ffurflen, mae’n bosib y byddwn ni’n cysylltu â chi i weld a allwn helpu gydag unrhyw broblemau sy’n codi o'r ffurflen neu ein gwefannau.

I weinyddu'ch cyfraniad neu gefnogi'ch gwaith codi arian, gan gynnwys prosesu Gift Aid

Byddwn yn casglu data personol gennych er mwyn derbyn cyfraniadau a phrosesu Gift Aid.

Yn gyfreithiol mae'n rhaid i ni gadw'r wybodaeth hon am saith mlynedd. Os ydych chi'n hapus i ni hawlio Gift Aid ar nwyddau rydych chi wedi'u rhoi, a'u bod nhw'n codi dros £100 mewn un flwyddyn dreth, mae'n rhaid i ni gysylltu â chi bob chwarter i roi gwybod i chi pa fath o Gift Aid rydyn ni'n ei hawlio.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i ganfod a lleihau risg twyll a chredyd.

Er mwyn sicrhau ein bod ni'n gwybod sut i gysylltu â chi

Rydyn ni'n recordio dewisiadau cyfathrebu felly byddwn ni dim ond yn cysylltu â chi yn y ffyrdd rydych wedi’u nodi. Nid ydym am wastraffu eich amser, na'r arian gwerthfawr y mae ein cefnogwyr anhygoel wedi’i godi a chyfrannu.

I anfon Marchnata Uniongyrchol atoch chi

Byddwn dim ond yn cysylltu â chi drwy farchnata uniongyrchol am ein gwaith, gweithgareddau ac ymgyrchoedd gyda'ch caniatâd penodol, neu o dan fudd cyfreithlon.

Budd Cyfreithlon yw lle rydym wedi ystyried eich hawliau a'ch diddordebau, a dim ond os ydym yn teimlo ei fod er eich budd chi, yn ogystal â'n budd ni, y byddwn yn prosesu'ch data.

Er enghraifft, efallai y bydd gennym fuddiant cyfreithiol i brosesu eich gwybodaeth bersonol os ydych wedi holi am un o'n gwasanaethau cymorth canser, ac rydym yn gwybod bod gwasanaethau cymorth eraill ar gael a allai eich helpu. Neu at ddibenion cyfreithiol fel delio â chwynion, neu ar gyfer cydymffurfio â chanllawiau gan y Comisiwn Elusennau. Efallai y byddwn hefyd yn prosesu'ch gwybodaeth bersonol i gysylltu â chi am ddigwyddiadau neu ymgyrchoedd tebyg i'r rhai rydych chi wedi'u cefnogi yn y gorffennol, ac mewn rhai achosion y rhai rydych chi wedi mynegi diddordeb ynddynt.

Rydyn ni'n ei gwneud hi'n hawdd i chi ddweud nodi sut rydych chi am i ni gyfathrebu â chi, a sut i optio allan o gyfathrebiadau marchnata. Nid ydym yn gwerthu nac yn rhannu manylion personol i drydydd partïon at ddibenion marchnata. Ond yn achlysurol, efallai y byddwn yn cynnwys gwybodaeth yn ein cyfathrebiadau gan sefydliadau partner neu sefydliadau sy'n ein cefnogi.

Os ydych chi'n newid eich meddwl ar unrhyw adeg, ac nad ydych chi eisiau clywed gennym ni mwyach, mae hynny'n iawn. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n nodi eich manylion neu cysylltwch â ni ar 029 2076 8850 neu preferences@tenovuscancercare.org.uk.

I gadw cofnod o'ch perthynas â ni

Mae'n bwysig i ni gadw cofnodion clir o sut rydych wedi ein cefnogi, neu wedi cael cefnogaeth gennym ni yn y gorffennol. Mae hyn yn ein helpu i gael darlun ehangach i sicrhau bod eich profiadau o elusen Gofal Canser Tenovus o’r safon gorau posib.

Efallai y byddwn hefyd yn casglu ac yn cadw'ch gwybodaeth os byddwch chi'n anfon adborth, canmoliaeth neu gŵyn am ein gwasanaethau.

Deall sut y gallwn wella ein gwasanaethau, ein cynhyrchion neu ein gwybodaeth

Credwn ei bod yn bwysig sicrhau bod ein holl wasanaethau a mentrau iechyd a lles o’r safon gorau y gallant fod. Dyna pam rydyn ni'n eu gwerthuso.

Ar ôl i chi ddefnyddio un o'n gwasanaethau neu dderbyn cyngor iechyd, efallai y byddwn yn cysylltu i ofyn i chi am eich profiadau. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i gymryd rhan, ond mae wir yn helpu i dynnu sylw at ffyrdd y gallwn wella pethau yn y dyfodol.

Deall ein cefnogwyr a gweithio'n fwy effeithiol

Rydym yn defnyddio technegau proffilio a sgrinio i sicrhau bod cyfathrebiadau'n berthnasol ac yn amserol, ac i ddarparu profiad gwell i'n cefnogwyr. Mae proffilio hefyd yn caniatáu i ni dargedu ein hadnoddau yn effeithiol, sy’n flaenoriaeth yn ôl ein cefnogwyr.

Wrth adeiladu proffil efallai y byddwn yn dadansoddi gwybodaeth ddaearyddol, ddemograffig a gwybodaeth arall sy'n ymwneud â chi er mwyn deall eich diddordebau a'ch dewisiadau yn well er mwyn cysylltu â chi gyda'r cyfathrebiadau mwyaf perthnasol.

Wrth wneud hyn, gallwn ddefnyddio gwybodaeth ychwanegol o ffynonellau trydydd parti pan fydd ar gael. Cesglir gwybodaeth o'r fath gan ddefnyddio data amdanoch chi sydd ar gael i'r cyhoedd, er enghraifft cyfeiriadau, Cyfarwyddiaeth restredig neu enillion nodweddiadol mewn ardal benodol.

Rydyn ni'n gwneud hyn oherwydd ei fod yn caniatáu i ni ddeall cefndir y bobl sy'n ein cefnogi ac yn ein helpu i wneud y ceisiadau cywir. Yn fwy pwysig, mae'n ein helpu i godi mwy o arian, yn gynt, mewn ffordd fwy cost-effeithiol nag y byddem fel arall.

I rannu'ch stori neu'ch profiad

Mae rhai pobl yn dewis dweud wrthym am eu profiadau i helpu i ddatblygu ein gwaith ymhellach. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am eu hiechyd, eu cyllid a'u teulu, ynghyd â lluniau a / neu fideo. Byddwn bob amser yn sicrhau bod gennym ganiatâd eglur a gwybodus gan yr unigolion, neu eu rhiant neu warcheidwad os ydyn nhw o dan 16 oed. Byddwn bob amser yn cadw'r wybodaeth hon yn ddiogel.

Gellir rhannu'r wybodaeth hon mewn digwyddiadau, mewn deunyddiau hyrwyddo neu ymgyrchoedd codi arian, neu mewn dogfennau fel ein hadroddiad blynyddol.

4. Rhannu eich data

Nid ydym yn gwerthu nac yn rhannu manylion personol i drydydd partïon at ddibenion marchnata. Byddwn dim ond yn rhannu eich manylion â sefydliadau trydydd parti pan fydd angen;

Darparu’r gwasanaethau rydych chi wedi gofyn amdanyn nhw

  • Byddwn yn sicrhau eich bod yn hapus inni wneud hyn cyn i unrhyw beth ddigwydd a byddwn yn egluro gyda phwy yr ydym yn rhannu'r data e.e. yr Adran Gwaith a Phensiynau, eich cyngor lleol ac ati.
  • Gweinyddu eich cyfranogiad mewn digwyddiad neu weithgaredd codi arian
  • Cydymffurfio â rheoleiddiadau Iechyd a Diogelwch

Os bydd angen i ni rannu data at y dibenion hyn, byddwn bob amser yn cymryd y gofal mwyaf, ac yn sicrhau mai dim ond data hanfodol sy'n cael ei drosglwyddo, a'n bod yn gwneud hynny'n ddiogel.

5. Amgylchiadau eithriadol

Efallai y bydd hefyd gofyn i Gofal Canser Tenovus rannu eich manylion mewn amgylchiadau eithriadol. Er enghraifft, cydymffurfio â chod ymddygiad proffesiynol y nyrsys neu lle bo hynny'n ofynnol yn gyfreithiol gan yr heddlu, cyrff rheoleiddio neu gynghorwyr cyfreithiol.

Dim ond os bydd gennym eich caniatâd eglur a gwybodus y byddwn yn rhannu eich data byth mewn amgylchiadau eraill.

Sut rydym yn diogelu eich data a phwy sydd â hawl edrych arno

Rydym yn sicrhau bod mesurau priodol ar waith i amddiffyn eich manylion personol. Er enghraifft, mae ein ffurflenni ar-lein bob amser yn cael eu hamgryptio ac mae ein rhwydwaith yn cael ei warchod a'i fonitro'n rheolaidd. Rydym yn cynnal adolygiadau rheolaidd o bwy sydd â mynediad at y wybodaeth sydd gennym, a sicrhau bod staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid sydd wedi'u hyfforddi'n briodol.

Cyn i ni ddefnyddio unrhyw gwmnïau allanol i gasglu neu brosesu data personol ar ein rhan, byddwn yn gwneud gwiriadau cynhwysfawr. Byddwn bob amser yn rhoi contract ar waith sy'n nodi ein disgwyliadau a'n gofynion, yn enwedig sut maen nhw'n rheoli'r data personol maen nhw wedi'i gasglu neu y mae ganddyn nhw fynediad iddo.

Nid yw cyflenwyr sy'n rhedeg eu gweithrediadau y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) yn ddarostyngedig i'r un deddfau diogelu data â chwmnïau sydd wedi'u lleoli yn y DU. Fodd bynnag, os byddwn yn dewis defnyddio cyflenwr y tu allan i'r AEE, byddwn yn sicrhau eu bod yn darparu lefel diogelwch ddigonol yn unol â chyfraith diogelu data'r DU.

Efallai y bydd angen i ni ddatgelu'ch manylion i'r heddlu, cyrff rheoleiddio neu gynghorwyr cyfreithiol.

Dim ond os bydd gennym eich caniatâd eglur a gwybodus y byddwn yn rhannu eich data byth mewn amgylchiadau eraill.

6. Cadw eich gwybodaeth yn gyfredol

Rydyn ni'n ymdrechu i gadw ein cofnodion yn gyfredol er mwyn anfon y wybodaeth fwyaf perthnasol atoch chi, gan ddefnyddio'r manylion cyswllt cywir.

Os bydd eich manylion personol yn newid, byddem yn gwerthfawrogi'n fawr os allwch roi gwybod i ni.

Lle bo modd, rydym yn defnyddio ffynonellau sydd ar gael i'r cyhoedd i gadw'ch cofnodion yn gyfredol; er enghraifft, cronfa ddata Newid Cyfeiriad Cenedlaethol Swyddfa'r Post a gwybodaeth a ddarperir i ni gan sefydliadau eraill fel y nodwyd uchod.

Eich ‘Hawl i Wybod’ yr hyn rydyn ni'n ei wybod amdanoch chi, gwneud newidiadau neu ofyn i ni beidio â defnyddio'ch data.

Mae gennych hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol, ac os nad yw’n angenrheidiol at y diben y gwnaethoch ei ddarparu inni (e.e. prosesu eich rhodd neu eich cofrestru ar gyfer digwyddiad)

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Os felly, gallwn ddarparu ffurflen cais mynediad i chi a fydd yn cynnwys arweiniad ar sut y gallwch wneud cais. Bydd hyn yn ein helpu i ymateb cyn gynted â phosibl. Ffoniwch ni ar 029 2076 8850 am hyn.

Os oes gennych gwestiynau pellach, e-bostiwch preferences@tenovuscancercare.org.uk ac am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen canllawiau’r Comisiynydd Gwybodaeth.

7. Am faint o amser rydym yn storio eich gwybodaeth

Byddwn ni dim ond yn defnyddio a storio eich gwybodaeth cyhyd a’i bod yn cael ei defnyddio at y dibenion y cafodd ei chasglu. Mae pa mor hir y bydd gwybodaeth yn cael ei storio yn dibynnu ar y wybodaeth dan a pham mae'n cael ei defnyddio.

Rydym yn gwybod y bydd llawer o'n cefnogwyr neu gleientiaid yn ymgysylltu â ni mewn mwy nag un ffordd. Mae hyn yn golygu efallai fod gennym wybodaeth ar eich cyfer ar draws wahanol rannau o'r elusen. Ac oherwydd bod y rheolau ynghylch pa mor hir rydyn ni'n cadw'ch data yn amrywio, yn dibynnu ar ei bwrpas, byddwn ni'n cadw'ch data yn unol â'r cyfnod hiraf o amser sydd ei angen arno. Mae hyn yn ein helpu i ddeall eich perthynas â'r sefydliad, a rhoi'r profiad gorau un i chi.

Rydym yn adolygu pa wybodaeth sydd gennym yn barhaus ac yn dileu'r hyn nad oes ei angen mwyach. Os hoffech wybod mwy am ein hamserlenni cadw data, e-bostiwch preferences@tenovuscancercare.org.uk neu ffonio 029 2076 8850

Newidiadau i’r Polisi

Rydym yn adolygu'r polisi hwn yn flynyddol ac mae’n bosib y byddwn yn ei ddiweddaru o bryd i'w gilydd. Os rydym yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol, byddwn yn gwneud hyn yn glir ar ein gwefan neu trwy gysylltu â chi'n uniongyrchol.

Diweddarwyd Chwefror 2019

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth am ein Polisi Preifatrwydd neu sut rydym yn cadw eich data, cysylltwch â ni drwy info@tenovuscancercare.org.uk neu ffonio 029 2076 8850.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010