Skip to main content

Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn rhywbeth y dylem ni gyd fod yn ei wneud, er gwaethaf ein hiechyd. Ond mae’n gallu bod yn un o’r tasgau hynny nad yw pobl yn hoffi eu trafod, ac mae’n dueddol o syrthio i waelod y rhestr. Ond, fe all dim ond ychydig o baratoi dawelu eich meddwl, a helpu i osgoi costau annisgwyl neu broblemau cyfreithiol yn y dyfodol.

Gwneud ewyllys os oes gennych chi ganser
Mae gwneud ewyllys yn bwysig beth bynnag yw eich amgylchiadau, ond os oes gennych chi ganser mae’n hanfodol gwneud yn siŵr bod yno gofnod o’ch dymuniadau. Mae ysgrifennu Ewyllys yn tawelu eich meddwl ac yn golygu eich bod chi’n gallu penderfynu beth fydd yn digwydd ar ôl i chi farw.

Mae bod ag Ewyllys yn gallu lleihau straen a chostau i’ch anwyliaid.

Yn ogystal, os nad ydych chi wedi gwneud Ewyllys, bydd y llywodraeth yn penderfynu beth fydd yn digwydd i’ch arian a’ch asedau. Gallai hyn achosi dadleuon neu anghytundebau, neu hyd yn oed olygu bod aelodau o’r teulu yn colli allan.

Cysylltwch â’n Tîm Etifeddiaeth ynglŷn â gwneud Ewyllys am ddim

Rydyn ni’n gwybod bod Ewyllysiau a phethau cyfreithiol yn gallu bod yn anodd, felly mae ein Tîm Etifeddiaeth cyfeillgar ar gael i ateb unrhyw gwestiynau. Dysgwch ragor yma.

Cynllunio ar gyfer costau angladd
Dydy’r un ohonon ni’n hoffi meddwl am ein marwolaeth, ond mae cynllun angladd wedi’i dalu amdano’n ffordd o wneud yn siŵr bod costau a manylion eich angladd wedi’u trefnu o flaen llaw. Nid yn unig mae hyn yn arbed eich anwyliaid rhag y boen o orfod ei wneud yn nes ymlaen, ond mae hefyd yn golygu y gallwch chi benderfynu ar beth hoffech chi ei gael, ac arbed arian trwy dalu amdano nawr.

Cynllunio ar gyfer diwedd oes

Mae derbyn prognosis byr neu o ganser wedi gwaethygu yn gallu bod yn anodd iawn i chi a’ch anwyliaid. Os ydych chi neu anwyliad eisiau dysgu mwy am Gynllunio ar gyfer diwedd oed, fe ddewch chi o hyd i amrywiaeth o wybodaeth a chyngor yma.

Cysylltwch â ni
Cysylltwch â’n tîm cyfeillgar a fydd yn gallu eich helpu gyda chynllunio materion ariannol.  Defnyddiwch ein ffurflen Gofyn i’r Cynghorwr neu ffoniwch eich Llinell Gymorth am ddim ar 0808 808 1010.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010