Skip to main content

Gall rhai newidiadau i’ch corff fod yn arwydd o ganser. Mae’n bwysig gwybod beth sy’n arferol o ran eich corff, er mwyn i chi sylwi os yw’n newid yn gyflym.

Os byddwch chi’n sylwi ar arwydd neu symptom a nodir isod, nid yw o angenrheidrwydd yn golygu bod gennych chi ganser, ond mae’n bwysig bod meddyg yn cael golwg arno cyn gynted â phosib. Yn aml, gall y symptomau hyn gael eu creu gan afiechydon eraill, ond mae’n bwysig siarad â’ch meddyg teulu fel y gallant ymchwilio’n fuan. Mae canfod canser yn gynnar yn golygu ei fod yn haws i’w drin.

Arwyddion a symptomau canser

Dyma rai o arwyddion a symptomau mwyaf cyffredin canser. Nid yw’r rhestr hwn yn gynhwysfawr, ac nid yw wedi’i fwriadu fel adnodd diagnosis, felly os oes gennych chi unrhyw bryderon, ewch i weld eich meddyg.

Lympiau

Os ydych chi’n dod o hyd i lwmp ar eich corff, ewch i weld eich meddyg teulu. Yn dibynnu ar ddiagnosis eich meddyg, efallai y byddwch chi’n cael eich cyfeirio at arbenigwr i gael rhagor o brofion.

Newidiadau i’ch bronnau

Ynghyd a lympiau, mae yna nifer o bethau eraill i gadw golwg amdanynt, y dylai dynion a menywod fod yn ymwybodol ohonynt.

  • Newidiadau o ran maint, amlinelliad neu siâp.
  • Newidiadau o ran edrychiad neu deimlad eich croen fel chwyddau, crychau, croen oren, briwiau ar eich croen neu wythiennau’n mynd yn fwy.
  • Lwmp newydd, tewychu neu ddarn lympiog ar y fron neu’r gesail.
  • Hylif annisgwyl neu waedu.
  • Tethi suddedig neu gramennog neu newid o ran lleoliad y deth.
  • Anghysur neu boen mewn un fron.
  • Brech anesboniadwy neu deimlad o wres.

Poen

Os ydych chi wedi dioddef poen yn eich corff, sydd wedi para dros dair wythnos, dylech chi fynd i weld eich meddyg.

Pesychu, diffyg anadl a chrygni

Os ydych chi wedi bod â pheswch neu wedi teimlo’n fyr eich gwynt am fwy na phythefnos, neu os oes yno waed pan fyddwch chi’n pesychu, cysylltwch â’ch meddyg teulu. Mae symptomau fel bod yn fyr eich anadl neu boen yn eich brest hefyd yn gallu bod yn arwydd o gyflwr difrifol (acíwt), fel niwmonia. Cysylltwch â’ch meddyg teulu ar unwaith os oes gennych chi’r math yma o symptomau.

Newidiadau yn eich arferion toiled

Ewch i weld eich meddyg teulu os ydych chi wedi profi un o’r newidiadau isod a bod hyn wedi para mwy nag ychydig wythnosau:

  • gwaed yn eich carthion
  • dolur rhydd neu rwymedd am ddim rheswm amlwg
  • teimlad nad ydych chi wedi gwagio eich perfedd yn iawn ar ôl bod i’r toiled
  • poen yn eich abdomen (bol) neu'ch pen ôl
  • problemau o ran pi-pi, fel angen mynd yn sydyn neu boen pan fyddwch chi’n mynd

Gwaedu

Cysylltwch â’ch meddyg teulu os ydych chi’n gwaedu’n anesboniadwy, er enghraifft:

  • gwaed yn eich pi-pi
  • gwaedu rhwng mislif
  • gwaed yn eich carthion
  • gwaedu pan rydych chi’n tagu
  • gwaed yn eich cyfog

Ymchwyddo

Os ydych yn teimlo fel eich bod wedi ymchwyddo am dair wythnos neu fwy, cysylltwch â’ch meddyg teulu am gyngor

Mannau geni a chroen

Ewch i weld eich meddyg teulu os oes gennych chi fan geni sydd

  • â siâp afreolaidd neu anghymesur
  • â ffin afreolaidd gydag ochrau pigog
  • â mwy nag un lliw (efallai ei fod yn frith gyda brown, du, coch, pinc neu wyn)
  • yn fwy na 7mm mewn diamedr
  • yn cosi, yn gramennog neu’n gwaedu

Ewch i weld eich meddyg teulu os ydych chi’n sylwi ar newidiadau eraill i’ch croen, gan gynnwys:

  • Newid newydd, anesboniadwy i’ch croen sy’n ymddangos yn sydyn.
  • Man neu friw sy’n parhau i gosi, brifo, cramennu neu waedu am fwy na phedair wythnos neu sydd ddim yn gwella o fewn pedair wythnos.
  • Mannau briwedig lle mae’r croen wedi torri a heb wella o fewn pedair wythnos.

Gallwch ddod o hyd i mwy o wybodaeth am fannau geni a newidiadau i’r croen yma.

Colli pwysau heb reswm

Cysylltwch â’ch meddyg teulu os ydych chi wedi colli llawer o bwysau dros y misoedd diwethaf ac nad oes modd ei esbonio trwy newidiadau i’ch diet, ymarfer corff neu straen.

Blinder sylweddol

Os ydych chi wedi bod yn dioddef o flinder am ddim rheswm, a hynny ers peth amser, yna mae’n werth mynd i weld eich meddyg teulu.

Unrhyw bryderon eraill

Byddwn bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’ch meddyg teulu neu gael cyngor meddygol proffesiynol os oes gennych chi unrhyw bryderon. 

Mwy o wybodaeth

Gallwch ddarllen mwy am arwyddion a symptomau canser yma:

Gallwch hefyd ffonio ein Llinell Gymorth rhadffôn i siarad ag un o’n nyrsys profiadol.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010