Skip to main content

Heb wirfoddolwyr, ni fyddai’r gwaith a wnawn yma yn Gofal Canser Tenovus yn bosibl. Maen nhw’n cefnogi pob rhan o’r elusen gan gynnwys ein gwasanaethau, ein siopau, ein digwyddiadau a’n hymgyrchoedd.

Mae oddeutu 2,000 o wirfoddolwyr yn rhoi eu hamser, yn ein helpu i gefnogi cleifion canser a’u hanwyliaid, ac yn ariannu ymchwil i achub bywydau.