Skip to main content

Mae ein corau Sing with Us yno i unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan ganser. Mae’n nhw’n cynnig cymorth, cyfeillgarwch a hwyl, ac mae ein gwaith ymchwil arloesol wedi dangos bod canu’n dda i chi hefyd.

Mae’n ffordd hyfryd o godi eich hwyliau, lleihau gorbryder a bod yn rhan o rywbeth arbennig. A gorau oll, mae pawb yn gallu canu – hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl eich bod chi’n gallu! Mae gennym ni gorau ar draws y wlad ac mae pobl newydd yn ymuno â ni trwy’r adeg.

Er bod ein corau yn digwydd ar-lein ar hyn o bryd oherwydd y pandemig, mae dal yn bosibl i chi ddod o hyd i’ch côr lleol drwy ddefnyddio’r map rhyngweithiol isod!

Sut bethau yw ein corau Sing with Us

Mae ein corau’n hwyliog a dyrchafol, ac maen nhw i bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser mewn unrhyw ffordd. Does dim angen i chi all darllen cerddoriaeth, neu fod yn ganwr arbennig. Byddwch yn barod i ymuno a chymryd rhan.

Rydyn ni’n canu amrywiaeth o ganeuon cyfoes o’r 50 mlynedd diwethaf. Byddwch chi’n ein clywed yn canu clasuron modern gan bobl fel Queen, Elvis, Rhianna, The Beach Boys, Take That neu Adele.

Gallwch chi ymuno â’n corau Sing with Us yn rhad ac am ddim, ond maen nhw’n dibynnu’n llwyr ar roddion. Rydyn ni eisiau sicrhau ein bod ni’n gallu parhau â’r gwasanaeth pwysig hwn, felly rydyn ni’n gwerthfawrogi unrhyw roddion neu godi arian y gall ein haelodau helpu gyda nhw. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n Cwestiynau Cyffredin.

Mae ein corau wedi bod yn digwydd ar-lein oherwydd y pandemig ond rydym yn gyffrous i gyhoeddi eu bod yn trosglwyddo yn ôl i ymarferion personol ar hyn o bryd. Rydym yn dal i groesawu aelodau newydd yn ystod yr amser hwn felly cysylltwch â ni trwy lenwi'r ffurflen isod os hoffech chi gymryd rhan.

Gwerthusiadau

Rydyn ni’n gwerthuso ein gwasanaethau’n rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cwrdd ag anghenion y bobl sy’n eu defnyddio, i nodi ffyrdd o’u gwella, ac i wneud yn siŵr ein bod ni’n cael y gwerth gorau am arian. Fe wnaethon ni werthuso ein corau Sing with Us yn ddiweddar. O’r 1,491 o aelodau y gwnaethon ni eu holi, roedd 94% wedi gwneud ffrindiau trwy’r côr ac roedd 87% yn teimlo bod y côr yn rhan fawr o’u bywydau. Gallwch chi lwytho’r adroddiad i lawr isod.

Rydyn ni'n dal i groesawu aelodau newydd!

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010