Skip to main content

Dros 50 mlynedd yn ôl, gwnaethom addewid fel Gofal Canser Tenovus i ddarparu cymorth i bobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser, i gynnig gobaith iddyn nhw beth bynnag a ddaw.

Diolch i bobl anhygoel fel chi, mae’r gwaith hwnnw yn parhau heddiw drwy driniaeth, gofal a chymorth am filoedd o bobl bob blwyddyn lle a phan fod eu hangen.

Chi sydd wrth galon popeth rydym yn ei gyflawni. Er mwyn cydnabod hyn, rydym wedi cofrestru â’r Rheoleiddiwr Codi Arian i sicrhau bod eich profiad ohonom o’r safon uchaf posib. Rydym hefyd yn aelod o’r Sefydliad Codi Arian Siartredig.

Mae ein Tîm Codi Arian cyfeillgar ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ac rydym wir yn gwerthfawrogi'ch adborth.  Os oes gennych gwestiynau ynghylch ein haddewid neu faterion codi arian, anfonwch ebost atom fundraising@tenovuscancercare.org.uk neu ffonio 029 2076 8850.

Os oes gennych bryderon neu gwestiynau am ganser, ffoniwch ein Llinell Gymorth rhadffôn ar 0808 808 1010.

Byddwn yn ymrwymo i safonau uchel

  • Byddwn yn dilyn y Cod Ymarfer Codi Arian.
  • Byddwn yn monitro codwyr arian, gwirfoddolwyr a thrydydd partïon sy'n gweithio gyda ni i godi arian, i sicrhau eu bod nhw'n cydymffurfio â'r Cod Ymarfer Codi Arian a'r Addewid hon.
  • Byddwn yn cydymffurfio â'r gyfraith fel y bo'n gymwys i elusennau a chodi arian.
  • Byddwn yn arddangos y bathodyn Rheoleiddiwr Codi Arian ar ein deunyddiau codi arian i ddangos ein bod wedi ymrwymo i arferion da.

Byddwn yn glir, yn onest ac yn agored

  • Byddwn yn dweud y gwir ac ni fyddwn yn gor-ddweud.
  • Byddwn yn gwneud yr hyn y dywedwn y byddwn yn ei wneud gyda'r rhoddion a gawn.
  • Byddwn yn glir ynghylch pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud.
  • Byddwn yn rhoi esboniad clir o sut y gallwn wneud rhodd a newid rhodd reolaidd.
  • Os gofynnwn i drydydd parti godi arian ar ein rhan, byddwn yn gwneud y berthynas hon a'r trefniadau ariannol yn dryloyw.
  • Byddwn yn gallu esbonio ein costau codi arian a dangos sut maent er lles gorau ein hachos os caiff eu herio.
  • Byddwn yn sicrhau bod ein proses gwyno yn glir ac yn hygyrch.
  • Byddwn yn rhoi rhesymau clir, seiliedig ar dystiolaeth am ein penderfyniadau am gwynion.

Byddwn yn barchus

  • Byddwn yn parchu eich hawliau a'ch preifatrwydd.
  • Ni fyddwn yn rhoi gormod o bwysau arnoch i wneud rhodd. Os nad ydych am roi neu rydych am roi'r gorau i roi, byddwn yn parchu'ch penderfyniad.
  • Bydd gweithdrefn gennym yn ei le ar gyfer delio â phobl mewn amgylchiadau agored i niwed a bydd ar gael ar gais.
  • Os yw'r gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol, byddwn yn ceisio eich cydsyniad cyn cysylltu â chi i godi arian.
  • Os dywedwch wrthym nad ydych am i ni gysylltu â chi mewn ffordd arbennig ni fyddwn yn gwneud hynny. Byddwn yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn, Post a Chodi Arian i sicrhau nad yw'r rhai sy'n dewis peidio â derbyn mathau penodol o ddogfennau cyfathrebu yn eu cael.

Byddwn yn deg ac yn rhesymol

  • Byddwn yn trin rhoddwyr a'r cyhoedd yn deg, gan ddangos sensitifrwydd ac addasu ein hymagwedd yn dibynnu ar eich anghenion.
  • Byddwn yn gofalu i beidio â defnyddio unrhyw ddelweddau neu eiriau sy'n achosi gofid neu bryder yn fwriadol.
  • Byddwn yn gofalu i beidio ag achosi niwsans neu amharu ar y cyhoedd.

Byddwn yn atebol ac yn gyfrifol

  • Byddwn yn rheoli ein hadnoddau mewn modd cyfrifol ac yn ystyried effaith ein codi arian ar ein rhoddwyr, ein cefnogwyr a'r cyhoedd.
  • Os ydych yn anhapus gydag unrhyw beth rydym wedi'i wneud wrth godi arian, gallwch gysylltu â ni trwy wneud cwyn. Byddwn yn gwrando ar adborth ac yn ymateb yn briodol i'r cwynion a'r feirniadaeth a gawn.
  • Bydd trefn gwyno gennym, a bydd copi ohoni ar gael ar ein gwefan neu bydd ar gael ar gais.
  • Bydd ein trefn gwyno yn rhoi gwybod i chi sut i gysylltu â'r Rheoleiddiwr Codi Arian os teimlwch fod ein hymateb yn anfoddhaol.
  • Byddwn yn monitro ac yn cofnodi nifer y cwynion a gawn bob blwyddyn ac yn rhannu'r data hwn gyda'r Rheoleiddiwr Codi Arian ar gais.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010