Skip to main content

Drwy godi arian i Gofal Canser Tenovus, rydych chi'n helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, pan fydd ei angen fwyaf

Mae gymaint o ffyrdd o'n cefnogi ni. P'un a ydych chi'n dwlu ar her, yn mwynhau dod â phobl at ei gilydd neu eisiau gwneud rhywbeth arbennig er cof am rywun, mae syniad codi arian at ddant pawb.

Does dim rhaid i chi fod yn godwr arian profiadol na gwneud rhywbeth anghyffredin. Weithiau, y syniadau symlaf sy'n dod â phobl at ei gilydd ac yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae pob punt rydych chi'n ei chodi yn cyfrif, a byddwn ni yma i'ch helpu bob cam o'r ffordd.

Mae dechrau codi arian yn haws nag y byddech chi'n ei feddwl

Beth bynnag sydd gennych chi mewn golwg, gall ychydig o baratoi helpu i sicrhau bod eich ymdrechion codi arian yn llwyddiant. Dyma rai awgrymiadau syml i'ch helpu i ddechrau:

Dewiswch eich syniad: Dewiswch rywbeth rydych chi'n ei fwynhau ac sy'n addas i chi. Gallai fod yn her bersonol, yn fore coffi neu'n ddigwyddiad cymunedol.

Gosodwch darged: Rhowch nod i chi'ch hun anelu ato a rhowch wybod i bobl faint rydych chi'n gobeithio ei godi.

Rhowch wybod i bobl: Dywedwch wrth eich ffrindiau, eich teulu a'ch cydweithwyr beth rydych chi'n ei wneud, a rhannwch eich tudalen codi arian i annog pobl i'ch cefnogi.

Gofynnwch am gefnogaeth: Efallai y bydd busnesau lleol yn gallu helpu gyda nawdd, rhoddion neu wobrau. Efallai y bydd eich cyflogwr hefyd yn cynnig rhoddion cyfatebol.

A chofiwch, does dim rhaid i chi wneud popeth ar eich pen eich hun. Mae ein Tîm Codi Arian cyfeillgar yma i gynnig cyngor, syniadau a chefnogaeth pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch chi.

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod eich profiad o godi arian mor gadarnhaol â phosibl. Dysgwch beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni yn ein Haddewid Codi Arian.

Tair ffordd hawdd o dalu'ch arian

Ar ôl gorffen codi arian, mae tair ffordd syml o dalu'r arian rydych chi wedi'i godi i mewn:

Drwy'r post: Anfonwch siec, yn daladwy i Gofal Canser Tenovus, i'r cyfeiriad canlynol: Tîm Codi Arian, Gofal Canser Tenovus, Llawn Cyntaf, Jones Court, Stryd Womanby, Caerdydd, CF10 1BR.

Arlein: Talwch eich arian codi i mewn arlein yma. Cofiwch ddweud wrthym am eich digwyddiad yn yr adran 'Beth wnaeth eich ysbrydoli?' fel y gallwn ni glywed sut gwnaethoch chi godi'r arian.

Dros y ffôn: Ffoniwch ni ar 029 2076 8850 i dalu drwy gerdyn credyd neu ddebyd.

Oes gennych chi gwestiynau? Mae ein Tîm Codi Arian cyfeillgar yma i helpu. Anfonwch e-bost atom ar fundraising@tenovuscancercare.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 2076 8850. Diolch am bob ceiniog rydych chi'n ei chodi. Mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Cwestiynau cyffredin

Wrth gwrs! Rhowch wybod i ni beth rydych chi'n ei gynllunio a byddwn ni'n gwneud ein gorau i helpu. Gallwn gynnig cyngor ar sut i ledaenu'r gair ac efallai y gallwn ddarparu deunyddiau hyrwyddo i gefnogi eich ymdrechion codi arian.

Gallwch. Mae gennym amrywiaeth o ddeunyddiau i'ch helpu i godi arian, gan gynnwys tuniau casglu, balŵns a phosteri. Ewch i'n tudalen Deunyddiau codi arian i weld beth sydd ar gael.

Mae sefydlu tudalen codi arian arlein drwy JustGiving yn ffordd syml o gasglu rhoddion. Gallwch rannu eich tudalen gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr, gosod targed codi arian a gweld eich cyfanswm yn cynyddu.

Gallwch hefyd ddefnyddio ffurflenni noddi papur os byddai'n well gennych gasglu rhoddion wyneb yn wyneb. Ar ôl codi'r arian, edrychwch ar yr opsiynau talu uchod i weld sut i'w dalu i mewn.

Os ydych chi'n trefnu digwyddiad, mae'n bwysig ystyried sut i gadw pawb yn ddiogel a gwirio a oes angen unrhyw ganiatâd neu yswiriant arnoch. Peidiwch â gadael i hyn eich digalonni – gallwn ni eich helpu i ddeall beth sydd angen i chi ei ystyried.

Gallant, os ydynt yn gymwys. Mae Rhodd Cymorth yn galluogi Gofal Canser Tenovus i hawlio 25c ychwanegol am bob £1 sy'n cael ei roi, heb unrhyw gost ychwanegol i'r rhoddwr. Rhaid i roddwyr fod yn drethdalwyr yn y DU a llenwi datganiad Rhodd Cymorth. Dysgwch fwy am Rodd Cymorth.

Mae'r arian rydych chi'n ei godi yn helpu Gofal Canser Tenovus i gefnogi pobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser a'u hanwyliaid. Yn gyffredinol, rydyn ni'n defnyddio rhoddion lle mae'r angen mwyaf, er mwyn parhau i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol. Os hoffech gefnogi gwasanaeth penodol, siaradwch â'n Tîm Codi Arian cyn dechrau.

Os ydych chi'n cymryd rhan mewn digwyddiad lle mae Gofal Canser Tenovus Cancer wedi talu am eich lle, efallai y bydd angen i chi weithio tuag at darged codi arian. Os ydych chi'n trefnu eich digwyddiad neu her eich hun, does dim targed penodol – mae pob punt rydych chi'n ei chodi yn gwneud gwahaniaeth.

Os ydych chi'n poeni na fyddwch chi'n cyrraedd eich targed, cysylltwch â ni. Byddwn ni bob amser yn hapus i gynnig cyngor a syniadau i'ch helpu ar hyd y ffordd.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010