Skip to main content

Mae alcohol yn gyffredin yn ein diwylliant ac yn aml mae’n gysylltiedig ag amseroedd da. Fodd bynnag, p’un a ydych chi’n ‘gwlychu pen y babi’ neu’n dathlu llwyddiant eich hoff dîm, mae risg canser yn cynyddu gyda phob uned o alcohol sy’n cael ei hyfed. Hefyd, mae yfed alcohol yn cynyddu'r risg o ganser p'un ai eich bod yn yfed y cyfan ar unwaith neu’n ei rannu trwy gydol yr wythnos.

Gall alcohol achosi saith math o ganser gwahanol. Yr alcohol ei hun sy'n achosi niwed, nid y math o ddiod alcoholig rydych chi'n ei yfed. Mae alcohol yn cynyddu risg o'r canserau canlynol:

  • Canser y geg
  • Canser pharyngeal (gwddf uchaf)
  • Canser yr oesoffagws (pibell fwyd)
  • Canser laryngeal (blwch llais)
  • Canser y fron
  • Canser y coluddyn
  • Canser yr afu

Mae yfed ac ysmygu gyda'i gilydd yn waeth nag un ar ei ben ei hun, oherwydd gyda'i gilydd maent yn achosi mwy o ddifrod i gelloedd y corff cyfan.

Nid yw hyn yn golygu y bydd pawb sy'n yfed alcohol yn datblygu canser, ond wrth gymharu'r boblogaeth gyfan, mae pobl sy'n yfed alcohol yn fwy tebygol o ddatblygu canser na phobl sydd ddim yn gwneud. Mae alcohol yn gyfrifol am 11,900 o achosion canser y flwyddyn yn y DU.

Mae torri lawr ar alcohol a chadw o fewn yr argymhellion presennol o 14 uned yr wythnos, sef tua chwe pheint o gwrw neu wydraid canolig o win, yn lle da i ddechrau. Mae’r manteision yn cynnwys arbed arian, osgoi pen tost sy’n effeithio ar eich egni, a chysgu yn well, ond efallai y cewch eich cynghori i beidio ag yfed yn ystod rhywfaint o driniaeth canser. Siaradwch â'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol i osgoi unrhyw sgîl-effeithiau diangen.

Faint bynnag ydych chi’n ei yfed, bydd torri i lawr yn lleihau eich risg o ddatblygu canser, yn ogystal â'ch helpu i gadw pwysau iach. Mae cadw o fewn canllawiau'r llywodraeth o 14 uned yr wythnos yn lle da i ddechrau.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010