Skip to main content

Rydyn ni’n gwybod bod cynnal pwysau a diet iach yn bwysig o ran rhwystro canser, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni’n gwneud yn siŵr bod pobl yn deall sut i wneud y penderfyniadau cywir.

Maeth

Mae'n bwysig gwneud y canlynol:

  • Bwyta diet cytbwys (ni ddylai'r cyfanswm o fraster rydych chi’n ei fwyta mewn diwrnod fod yn fwy na 30%)
  • Cynnwys ffrwythau a llysiau ffres yn eich dewisiadau bwyta dyddiol
  • Bwyta’r swm cywir i gadw at bwysau iach
  • Dim bwyta gormod o gig coch
  • Peidio ag yfed gormod o alcohol. Mae Prif Swyddogion Meddygol y DU yn argymell peidio yfed mwy nag 14 uned yr wythnos yn rheolaidd.

Ymarfer corff

Nid yn unig yw cadw’n brysur yn dda i’ch iechyd corfforol, ond mae’n dda i’ch iechyd meddwl hefyd. Ac mae gwneud her i elusen fel cerdded, rhedeg neu feicio yn ffordd berffaith o osod nod i chi eich hun, cael hwyl, a gwneud gwahaniaeth. Edrychwch ar ein digwyddiadau diweddaraf.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010