Skip to main content

Bob blwyddyn yn y DU, mae canser yr ysgyfaint yn gyfrifol am fwy o farwolaethau na chanser y fron a chanser y coluddyn wedi’u cyfuno.

Mae yna nifer o resymau dros roi’r gorau i ysmygu ac rydyn ni yma i helpu gyda chyngor am ddim a gwybodaeth am sut i roi’r gorau iddi. Rydyn ni’n gwybod nad yw hi’n hawdd ond rydyn ni yma i chi, a bydd y bobl sy’n eich caru yn diolch i chi.

Rydyn ni’n gwybod bod 70% o ysmygwyr eisiau rhoi’r gorau iddi, ond mae llawer angen ychydig o gymorth ychwanegol i’w helpu.

Cael cymorth

Mae nicotin mewn tybaco yn gyffur caethiwus iawn, felly does dim rhyfedd bod pobl yn ei chael hi mor anodd i stopio ac ymdopi â’r symptomau diddyfnu. Dydy gwneud hyn ar eich pen eich hun ddim y peth gorau i’r rhan fwyaf o bobl, felly mae’n well siarad â phobl all helpu.

Teulu a ffrindiau

Mae’n hawdd rhoi’r gorau iddi gyda rhywun arall gan eich bod yn gallu cefnogi'ch gilydd. Gallwch chi hefyd ddechrau rhyngweithio gyda phobl eraill ar gyfryngau cymdeithasol. Efallai y dewch chi o hyd i syniadau ac awgrymiadau i chi'ch hun, neu gallwch chi helpu rhywun arall sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi.

Y GIG

Mae gwasanaeth Helpa Fi i Stopio y GIG ar gael am ddim ledled Cymru ac mae’n cael ei ddarparu gan arbenigwr ar roi’r gorau i ysmygu. Mae tri math o sesiynau cymorth ar gael:

  • Grwpiau gydag ysmygwyr eraill sydd eisiau rhoi'r gorau i ysmygu
  • Sesiynau un i un wyneb yn wyneb
  • Sesiynau un i un dros y ffôn

Mae Therapi Disodli Nicotin am ddim neu feddyginiaeth ar gael i’ch helpu chi i reoli eich symptomau diddyfnu.

Bydd eich arbenigwr ar roi’r gorau i ysmygu yn egluro’r gwahanol gynhyrchion sydd ar gael ac yn eich helpu i ddewis pa un sydd orau i chi gan fod hyn yn amrywio yn ôl lefel eich dibyniaeth, iechyd, ffordd o fyw a’r ffordd y mae’r Therapi Disodli Nicotin yn gweithio.

Mae cynhyrchion am ddim yn cynnwys pats, losen, mewnanadlydd, chwistrell, gwm a thabledi ond fe all cymorth gan rywun profiadol eich helpu i ddewis yr un cywir i chi ac i newid os nad yw’n berffaith gywir. Maen nhw hefyd yn cynnig cyngor ar symptomau diddyfnu, strategaethau ymdopi, manteision iechyd a monitro carbon monocsid.

Mae defnyddio gwasanaethau cymorth yn eich gwneud yn bedair gwaith yn fwy tebygol o lwyddo. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Helpa Fi i Stopio y GIG ar 0800 085 2219

Fferyllfeydd

Erbyn hyn mae gan lawer o fferyllfeydd fferyllydd hyfforddedig sy’n gallu cynnig:

  • Cymorth un i un
  • Sesiynau 30 munud sydd yn hyblyg ac wedi’u cynllunio ond sydd ddim angen apwyntiad bob amser
  • Monitro carbon monocsid

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Helpa Fi i Stopio y GIG ar 0800 085 2219

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010