Skip to main content

Mae sawl ffordd o drin y gwahanol fathau o ganser. Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn argymell opsiynau gwahanol yn dibynnu ar fath, cyfnod a gradd eich canser.

Yn gyffredinol, mae triniaethau canser yn canolbwyntio ar ddinistrio neu reoli celloedd canser, ond yn yr un modd ag y mae canser pawb yn wahanol, bydd triniaeth ganser pob unigolyn yn wahanol hefyd. 

Llawdriniaeth

Mae llawdriniaeth yn golygu tynnu rhan o ganser neu ganser i gyd, ac mae’n un o’r prif driniaethau ar gyfer sawl math o ganser.

Gellir cynnal llawdriniaeth cyn neu weithiau ar ôl i driniaethau eraill gael eu defnyddio i leihau canser a’i wneud yn haws i’w dynnu. Weithiau, nid yw’n bosib cael llawdriniaeth oherwydd amrywiaeth o bethau fel y math o ganser, lle mae’r canser neu iechyd cyffredinol yr unigolyn. Mewn achosion fel hyn mae’n bosib y bydd triniaethau eraill yn cael eu cynnig.

Cemotherapi

Dyma’r defnydd o gyffuriau gwrth-ganser i ddinistrio celloedd canser. Mae cyffuriau cemotherapi yn gweithio drwy stopio celloedd canser rhag atgenhedlu. Mae’r cyffuriau hefyd yn gallu effeithio ar gelloedd iach, gan achosi sgil effeithiau.

Mae cemotherapi yn cynnwys sawl sesiwn o driniaeth, fel arfer wedi’i rannu dros ychydig fisoedd.

Cyn i’r driniaeth ddechrau, bydd eich tîm meddygol yn gwneud cynllun sy’n amlinellu:

  • y math o gemotherapi y byddwch yn ei gael
  • sawl sesiwn o driniaeth y byddwch ei hangen
  • pa mor aml y byddwch chi angen y driniaeth – ar ôl bob triniaeth byddwch yn cael seibiant cyn y sesiwn nesaf, i ganiatáu i’ch corff adfer.

Bydd cynllun eich triniaeth yn dibynnu ar bethau fel y math o ganser sydd gennych a beth yw nod y driniaeth.

Gellir rhoi cemotherapi fel

  • pigiad neu arllwysiad i mewn i wythïen (cemotherapi mewnwythiennol)
  • tabledi
  • neu gyfuniad o’r ddau.

Bydd hyn yn dibynnu ar ba gyffuriau sy’n cael eu gweini.

I mewn i wythïen (cemotherapi mewnwythiennol)

Yn y mwyafrif o achosion, mae cemotherapi yn cael ei roi yn syth i mewn i wythïen. Gelwir hyn yn gemotherapi mewnwythiennol.

Gall yr amser mae’n ei gymryd i gael dos o gemotherapi mewnwythiennol amrywio o ychydig oriau i sawl diwrnod.

Rydych fel arfer yn mynd i’r ysbyty am y driniaeth ac yna’n mynd adref ar ôl gorffen.

Tabledi (cemotherapi geneuol)

Weithiau rhoddir cemotherapi fel tabledi. Gelwir hyn yn gemotherapi geneuol.

Bydd angen i chi fynd i'r ysbyty ar ddechrau pob sesiwn driniaeth i gael y tabledi a chael archwiliad, ond gallwch chi fynd â'r feddyginiaeth gartref.

Sicrhewch eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau a roddir gan eich tîm gofal. Cysylltwch â'ch tîm gofal os ydych chi'n cael unrhyw broblemau gyda'ch meddyginiaeth, fel anghofio cymryd tabled neu fod yn sâl yn fuan ar ôl cymryd un.

Mae yna fathau eraill llai cyffredin o gemotherapi fel:

  • pigiadau o dan y croen, a elwir yn gemotherapi isgroenol
  • pigiadau i gyhyr, a elwir yn gemotherapi mewngyhyrol
  • pigiadau i'r asgwrn cefn, a elwir yn gemotherapi mewnweiniol
  • eli croen

Sgil effeithiau yn ystod cemotherapi

Mae pawb yn wahanol ond mae’r canlynol yn rhai o’r sgil effeithiau mwy cyffredin y gallwch eu cael:

  • blinder
  • teimlo a bod yn sâl
  • colli gwallt
  • heintiau
  • anemia
  • ceg ddolurus
  • colli archwaeth
  • problemau cof a chanolbwyntio

Therapïau wedi’u targedu ac imiwnotherapi

Mae’r cyffuriau canser hyn yn gweithio trwy ‘dargedu’ y gwahaniaethau sy’n helpu cell ganser i oroesi a thyfu. Mae sawl math gwahanol o therapi wedi’i dargedu, pob math yn targedu rhywbeth yn neu o amgylch y gell canser sy’n ei helpu i dyfu a goroesi.

Mae cyffuriau imiwnotherapi'n helpu’r system imiwnedd i weithio’n galetach neu yn ei wneud yn haws i’r system ganfod a gwaredu celloedd canser.

Mae yno wahanol fathau o imiwnotherapi. Mae pob un yn defnyddio’r system imiwnedd mewn gwahanol ffyrdd ac maen nhw’n gweithio’n well ar gyfer rhai mathau o ganser na rhai eraill. Mae’n cael ei ddefnyddio ar ei ben ei hun ar gyfer rhai canserau ond ar gyfer rhai eraill mae’n gweithio’n well pan fydd yn cael ei ddefnyddio gyda thriniaethau canser eraill.

Mathau o radiotherapi

Radiotherapi allanol

Mae radiotherapi yn driniaeth ganser sy’n defnyddio pelydrau x ynni uchel sy’n cael eu rheoli a’u mesur yn ofalus. Mae triniaeth radiotherapi yn cael ei pharatoi’n ofalus ar gyfer pob unigolyn, mae hyn yn sicrhau triniaeth fwy effeithiol gan wneud cyn lleied o niwed â phosib i gelloedd iach cyfagos. Mae ymbelydredd hefyd yn effeithio ar gelloedd iach a gall hyn arwain at sgil effeithiau yn ardal y driniaeth, gan gynnwys croen coch a dolurus, teimlo’n flinedig, colli gwallt yn yr ardal sy’n cael ei thrin, teimlo’n sâl, colli archaeth, ceg ddolurus a dolur rhydd.

Mae radiotherapi yn gallu cael ei ddefnyddio i geisio gwella canser, lleihau’r siawns o ganser yn dychwelyd neu i helpu i leihau symptomau. Mae’n gallu cael ei ddefnyddio ar ei ben ei hun neu gyda thriniaethau eraill fel cemotherapi neu lawdriniaeth. Dydy radiotherapi ddim yn eich gwneud yn ymbelydrol.

Therapi pelydr proton

Mae therapi pelydr proton yn fath o radiotherapi sy’n defnyddio protonau ynni uchel yn hytrach na phelydrau x neu electronau. Mae therapi pelydr proton yn golygu bod y driniaeth yn gallu cael ei thargedu’n well i’r rhan benodol o’r corff y mae ei hangen. Mae hyn yn llawer mwy cywir ac mae’n golygu bod llai o risg o ymbelydredd yn effeithio ar feinweoedd iach y corff.

Radiotherapi mewnol

Mae yna wahanol fathau o radiotherapi mewnol fel radioisotopau neu fracitherapi. Bydd y math o driniaeth rydych chi’n ei gael yn dibynnu ar le yn y corff y mae’r canser a’r math o ganser.

Mae bracitherapi yn defnyddio impiadau fel hadau, pelenni, gwifrau neu blatiau sy’n cael eu rhoi ger neu yn y tiwmor neu yn y man lle cafodd y canser ei dynnu. Mae hyn yn galluogi i ddos uchel o ymbelydredd gael ei rhoi i’r tiwmor, ond mae rhannau iach gerllaw yn cael llawer llai.

Mae hylifau ymbelydrol o’r enw radioisotopau neu radioniwclidau yn cael eu defnyddio i ddinistrio celloedd canser. Gelli’r rhoi’r hylif fel diod neu gapsiwl neu drwy bigiad i mewn i wythïen. Mae’r triniaethau hyn yn gallu eich gwneud chi’n ymbelydrol am rai dyddiau ar ôl y driniaeth. Bydd eich tîm yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau diogelwch ymbelydredd y bydd angen i chi eu dilyn.

Fel rheol, rhoddir radiotherapi yn yr ysbyty. Pan fyddwch chi'n cael radiotherapi allanol, fel arfer gallwch chi fynd adref yn fuan wedi hynny, ond efallai y bydd angen i chi aros yn yr ysbyty am ychydig ddyddiau os oes gennych fewnblaniadau neu therapi radioisotopau.

Fel arfer mae yna sawl sesiwn driniaeth, wedi'u gwasgaru dros ychydig wythnosau.

Aros gwyliadwrus

Aros gwyliadwrus yw cadw golwg agos ar ganser, yn enwedig y rheini a allai fod yn tyfu’n araf. Dim ond os bydd profion yn dangos bod y canser yn tyfu neu’n lledaenu, neu os bydd symptomau’n ymddangos y bydd triniaethau eraill yn dechrau. Defnyddir hyn yn aml gyda chanserau fel canser y prostad, lle mae peryglon ac effaith y driniaeth yn fwy na’r manteision posib.

Triniaeth liniarol

Mae triniaeth liniarol wedi’i chynllunio i leihau symptomau, a gwella ansawdd eich bywyd. Gellir ei defnyddio ar unrhyw gyfnod o salwch os oes symptomau pryderus, fel poen neu salwch. Gellir hefyd ei defnyddio i leihau neu reoli sgil effeithiau triniaethau canser. Gyda chanser difrifol, gallai triniaeth liniarol helpu rhywun i fyw’n hirach ac i fyw’n gyfforddus hyd yn oed os nad oes modd eu gwella. 

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010