Rydyn ni’n ymweld â digwyddiadau neu grwpiau i gynnal sgyrsiau sy’n codi ymwybyddiaeth o ganser, ei effaith a’r gwasanaethau cymorth rydyn ni’n eu darparu.
Mae ein sgyrsiau yn rhad ac am ddim ac ar gael yn ddwyieithog. Byddwn ni’n gwerthfawrogi unrhyw gyfraniadau sy’n cael eu derbyn. Bydd rhain yn ein galluogi ni i barhau i ddarparu ein gwasanaethau.
Dyma rai engreifftiau o’r cyflwyniadau y gallwn ni eu cynnig
- Ymwybyddiaeth canser
- Arwyddion a symptomau
- Canser yng Nghymru a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael drwy Gofal Canser Tenovus
Dyma rai engreifftiau o’r digwyddiadau y gallwn ni eu mynychu
- Grwpiau cymunedol, clybiau a chymdeithasau
- Fforymau Iechyd a Lles
- Sesiynau cymorth i staff wedi’u harwain gan sefydliadau
- Cynadleddau
Os oes gennych ddiddordeb, llenwch y ffurflen isod a byddwn ni’n cysylltu â chi.