Skip to main content

Rydyn ni’n gweithio tuag at gyfnod lle nad oes neb yn marw o ganser. Ac ymchwil canser a fydd yn ein helpu i gyrraedd yno. Mae’n hanfodol ein bod yn deall mwy am ganser, a gall ymchwil roi’r atebion a’r ddealltwriaeth i ni wneud hynny. Mae’n ein helpu i ddeall beth sy’n gweithio a beth nad yw’n gweithio. Bydd hefyd yn helpu yn y pen draw i wella sut mae canser yn cael ei atal, yn cael diagnosis ac yn cael ei drin.

Bydd ymchwil yn ein helpu i ddod o hyd i ffyrdd o wella, gwell opsiynau triniaeth ac, o’u rhoi ar waith, gwella ansawdd bywyd pobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw.

Pam mae ymchwil Gofal Canser Tenovus yn bwysig

Mae Gofal Canser Tenovus wedi ymrwymo i ariannu’r ymchwil o’r ansawdd gorau ar gyfer pobl Cymru, y DU a thu hwnt. Rydyn ni’n ariannu ymchwil canser o’r radd flaenaf sy’n cynnwys amrywiaeth o brosiectau fel atal canser, diagnosis cynnar, triniaeth, cymorth, goroesi a gofal diwedd oes.

Fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn wahanol. Nid dim ond y meysydd ymchwil mwy traddodiadol rydyn ni’n eu hariannu, ond rydyn ni’n cefnogi prosiectau arloesol a gwreiddiol, yn aml y meysydd sydd efallai wedi cael eu tanariannu’n draddodiadol.

Rydyn ni’n annog ceisiadau o sawl gwahanol faes a disgyblaeth. Mae hyn yn golygu bod modd edrych ar broblemau o amrywiaeth o safbwyntiau gan ddefnyddio arbenigedd gwahanol. Rydyn ni’n ariannu ymchwil sy’n archwilio syniadau newydd, ond hefyd y rheini sy’n cymryd syniadau a thechnolegau presennol o un maes a’u defnyddio i fynd i’r afael â phroblem mewn maes arall.

Ymchwil sy’n cynrychioli orau anghenion pobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw

Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn dewis y prosiectau gorau, rydyn ni’n galw ar adolygwyr cymheiriaid arbenigol o bob cwr o’r byd, sy’n gwirfoddoli eu hamser i gynghori a sgorio ein ceisiadau ymchwil.   Mae’r adolygiadau gan gymheiriaid wedyn yn cael eu darllen gan un o’n pwyllgorau cynghori gwirfoddol sy’n ein helpu i wneud penderfyniadau ynghylch pa ymchwil i’w hariannu. Cewch ragor o wybodaeth am ein proses ariannu yma.

Rydyn ni hefyd yn blaenoriaethu cynnwys y cyhoedd a chleifion yn ein hymchwil, i wneud yn siŵr ein bod yn ariannu’r ymchwil canser mwyaf perthnasol ac effeithiol. Darllenwch fwy am gynnwys y cyhoedd a chleifion yn ein hymchwil canser.

Gweithio mewn partneriaeth

Mae cydweithio’n dod yn fwyfwy pwysig. Mae Gofal Canser Tenovus yn credu y gallwn, drwy weithio gydag eraill sy’n rhannu ein nodau a’n huchelgeisiau, gynyddu effaith a chyrhaeddiad ein hymchwil canser, gan gyflawni mwy nag y gallem ar ein pen ein hunain.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010