Skip to main content

Gofynnir llawer o gwestiynau i ni am wirfoddoli. Edrychwch ar y rhai mwyaf cyffredin. Os nad yw eich cwestiwn chi isod, cysylltwch â ni a byddwn yn fwy na pharod i geisio helpu!

Mae gwirfoddolwyr yn bobl anhygoel, maen nhw’n rhoi o’u hamser i’n helpu ni ac rydyn ni wir yn gwerthfawrogi hynny, waeth faint maen nhw’n gallu ei roi. Dyma lawer o’n gwirfoddolwyr:

  • Graddedigion diweddar a myfyrwyr
  • Pobl sy’n awyddus i gael profiad gwaith
  • Pobl sydd wedi ymddeol
  • Unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i gleifion canser a’u teuluoedd
  • Pobl sydd wedi derbyn gwasanaethau Gofal Canser Tenovus ac sydd am roi rhywbeth yn ôl
  • Pobl sy’n chwilio am ffordd o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau

Eich dewis chi yn llwyr yw hynny. Mae angen mwy o amser nag eraill ar gyfer rhai o’n rolau, ond gallwn eich helpu i ddewis rôl sy’n addas i chi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen cyfleoedd.

Eich dewis chi yn llwyr yw hynny. Mae angen ymrwymiad rheolaidd ar rai o’n rolau. Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod ei bod yn aml yn anodd ymrwymo’n rheolaidd i wirfoddoli, felly beth am daro golwg ar ein cyfleoedd i helpu gyda digwyddiadau neu gyda chasgliadau bwced. Mae hyn yn golygu y gallwch ddewis a dethol pa fath o wirfoddoli sy’n addas i chi a phryd.

Ydyn! Bydd ein staff yn cael sgwrs â chi am hyn pan fyddwch yn dechrau, i roi gwybod i chi beth sydd ar gael.

Mae hyn yn wahanol ar gyfer pob rôl, edrychwch ar y disgrifiadau rôl sydd wedi’u rhestru ar y dudalen Cyfleoedd Gwirfoddoli i gael gwybod mwy. Os nad ydych chi’n siŵr a yw rôl yn addas i chi, ffoniwch ni neu anfonwch e-bost atom a byddwn ni’n fodlon trafod â chi. Mae rhywbeth at ddant pawb bob amser.

Rydyn ni’n gofyn am eirdaon ar gyfer ein holl rolau parhaus, dim ond rhai o’n rolau sy’n gofyn am archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), ond bydd hyn yn cael ei ysgrifennu’n glir yn y disgrifiad o’r rôl a bydd ein staff yn siarad â chi amdano. Dydyn ni ddim yn gofyn am eirdaon nac unrhyw archwiliadau ar gyfer ein digwyddiadau na’n rolau gwirfoddoli untro.

Mae archwiliadau neu ddatgeliadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn rhoi gwybodaeth gyfrinachol a diduedd i sefydliad am gofnod troseddol rhywun.

Rydyn ni’n gwahodd ein gwirfoddolwyr i gael sgwrs anffurfiol wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.

Ddim cyfweliad ydi hwn, ond cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych, cael gwybod mwy am yr elusen a'r swyddi sydd ar gael.

Wrth gwrs! Bydd ein holl wirfoddolwyr yn cael digon o hyfforddiant ar gyfer eu rôl, ac os ydych chi’n teimlo bod angen mwy arnoch, gofynnwch.

Dydy ein gwirfoddolwyr digwyddiadau a chasgliadau bwced yn cael hyfforddiant ffurfiol ond byddwn bob amser yn rhoi gwybodaeth lawn i chi am y digwyddiad ac yn sicrhau eich bod yn cael sesiwn briffio ar y dechrau ac ar y diwedd.

Bydd gan ein holl wirfoddolwyr oruchwyliwr yn eich rôl. Byddan nhw yno ar gyfer cefnogaeth ac arweiniad o ddydd i ddydd, ac i wneud yn siŵr eich bod yn hapus yn eich rôl.

Mae’r Tîm Datblygu Gwirfoddolwyr hefyd ar gael ar gyfer unrhyw gefnogaeth neu gwestiynau ychwanegol sydd gennych.

Rydyn ni bob amser yn aros i glywed gan bobl sydd â sgil benodol sy’n gallu helpu’r sefydliad yn eu barn hwy. Beth am gysylltu â’n Tîm Datblygu Gwirfoddolwyr, gan ddefnyddio’r manylion isod i weld a oes rhywbeth bydd yn dda i chi.

Na fydd. Yn wir, mae gwirfoddoli bellach yn cael ei annog yn frwd ar gyfer pobl ddi-waith ac ni fydd yn effeithio ar y budd-daliadau a gewch.

Os ydych chi'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), cewch wirfoddoli ar yr amod eich bod yn dal i fod ar gael i weithio a'ch bod yn dal i chwilio am waith.

Gallwch. Un o’r manteision o wirfoddoli gyda ni yw y byddwch yn gallu gwneud cais am swyddi mewnol ac allanol.

Edrychwch ar ein hadran swyddi ar y wefan i weld y swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd.

Cewch, cewch adael unrhyw bryd. Os hoffech chi wirfoddoli gyda ni o hyd ond mewn rôl wahanol, gallwch gael sgwrs gyda’r tîm Datblygu Gwirfoddolwyr i ddod o hyd i rywbeth arall sy’n addas i chi.

Gallwch weld yr holl swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd yma a gwneud cais yn uniongyrchol ar-lein. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am rôl rydych chi wedi’i gweld, rhowch wybod i ni.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill?