Skip to main content

Os oes gennych chi awr neu ddiwrnod i’w sbario, eisiau gwneud rhywbeth ar eich pen eich hun, gyda ffrindiau neu gydweithwyr, mae gennym ni rôl wirfoddoli sy’n addas i chi!

Sylwch: Oherwydd Covid-19 nid yw'r holl gyfleoedd ar gael ar hyn o bryd. Mae gennym rolau yn ein siopau, warws a rolau gweithio gartref i gefnogi Timau Prif Swyddfa. Gallwch ddod o hyd i'r holl gyfleoedd cyfredol yma. Mae yna lawer o ffyrdd hefyd i gymryd rhan trwy godi arian i ni a gallwch ddarganfod mwy am hynny yma.

Mae ein Digwyddiadau, Cymuned a'r rolau yn ein Prif Swyddfa na ellir eu gwneud o bell, wedi cael eu gohirio am nawr yn unol â chanllawiau Covid-19.

Byddwn yn ysu am fynd ymlaen pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, edrychwch ar y math o gyfleoedd sydd gennym fel arfer isod:

Rolau gwirfoddoli rheolaidd

Mae gennym ni lawer o rolau rheolaidd y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw ar draws ein holl adrannau:

Manwerthu – gwirfoddoli yn un o’n siopau elusen

Beth am gymryd rhan yn un o’n siopau elusen niferus ledled Cymru a Lloegr, yn ogystal â’n warws yng Nghaerdydd. Mae gennym amrywiaeth o rolau ar gael, o ddidoli, paratoi, arddangos a gwerthu eitemau, i dynnu lluniau a rhestru eitemau ar-lein.

Rolau swyddfa – helpwch un o’n timau swyddfa

Mae gennym amrywiaeth o rolau yn ein swyddfa sy’n helpu gyda llawer o wahanol weithgareddau ym maes Codi Arian, Cyllid, TG, Cymorth, Adnoddau Dynol, Cyfathrebu a Marchnata i enwi dim ond ychydig!

Rolau cymunedol – helpu ein gwaith yn y gymuned

Os bod gwell gennych chi fod tu allan, mae gennym ni lawer o rolau yn y gymuned gan wneud amrywiaeth o bethau, fel helpu ein gwasanaethau neu godi arian.

Gwirfoddoli Untro

Ddim yn gallu ymrwymo i wirfoddoli’n rheolaidd? Wel, rydyn ni wedi rhoi sylw i amrywiaeth o gyfleoedd untro y gallwch chi fynd i’r afael â nhw.

Casgliadau Bwced

Rydyn ni bob amser allan gyda’n bwcedi casglu i godi arian, felly rydyn ni bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu.

Digwyddiadau

O Rasys Hwyl yr Ŵyl i Ddawnsfeydd Gala, rydyn ni’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau i godi arian ac rydyn ni bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu pethau i redeg yn ddidrafferth.

Mae ein cyfleoedd untro yn ffyrdd gwych o gael blas ar beth yw gwirfoddoli gyda ni. Felly ewch amdani...rhowch gynnig arni a gweld beth yw eich barn!

Gwirfoddoli gan Weithwyr

O ddidoli stoc yn ein siopau i ysgwyd bwced yn yr archfarchnad, mae llawer o ffyrdd y gall grwpiau staff ddod i’n helpu. Cysylltwch â ni i drefnu eich diwrnod gwirfoddoli pwrpasol ar gyfer gweithwyr!

Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, mae gweithgareddau’n gyfyngedig, ond cysylltwch â ni ac fe wnawn ni wneud ein gorau i edrych ar wahanol opsiynau ar eich cyfer.