Gall diagnosis o ganser gael effaith fawr ar eich sefyllfa ariannol. Efallai eich bod yn poeni am dalu eich biliau, ymdopi â chostau byw , neu’n ansicr a oes gennych hawl i unrhyw gymorth ariannol
Nid oes rhaid i chi wynebu'r heriau hyn ar eich pen eich hun. Yma yng Ngofal Canser Tenovus, gall ein tîm Cyngor ar Fudd-daliadau eich helpu i ddeall pa gymorth ariannol sydd ar gael a’ch tywys drwy’r opsiynau sy’n addas i chi. Mae ein gwasanaeth am ddim, yn gwbl gyfrinachol ac ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
P’un a oes gennych gwestiynau am fudd-daliadau, grantiau neu reoli eich arian, rydym yma i’ch helpu chi.
