Skip to main content

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu caru wedi'u heffiethio gan ganser, mae ein Llinell Gymorth am ddim yma i chi. Mae ein nyrsys canser yma i wrando, ateb eich cwestiynau a rhoi cymorth pan fydd ei angen arnoch fwyaf

Gall diagnosis o ganser godi llawer o gwestiynau, pryderon ac ansicrwydd. Efallai eich bod yn poeni am eich triniaeth, yn cael trafferth gydag sgil-effeithiau, yn poeni am y dyfodol neu’n chwilio am rywun sy’n eich deall.

Beth bynnag sydd ar eich meddwl, gall ein nyrsys canser profiadol eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth iawn a chymryd y cam nesaf ar eich cyflymder eich hun.

Mae ein Llinell Gymorth am ddim yn lle i ddechrau os ydych yn chwilio am wybodaeth, cyngor neu rywun i wrando. Gallwn eich cysylltu â’r cymorth gorau o Gofal Canser Tenovus.

Mae ein Llinell Gymorth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, Dydd Llun-Iau, 9yb-5yp, ac ar Ddydd Sadwrn, Ddydd Sul a Gwyliau Banc, 10yb-1yp.

Siaradwch â ni
Ffoniwch ein Llinell Gymorth am ddim ar 0808 8080 1010

Sut gallwn eich helpu

Gall ein nyrsys canser profiadol gynnig cymorth preifat, gwybodaeth a chyngor i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser. Gallwch siarad â ni am: 

- Deall eich diagnosis canser 
- Opsiynau triniaeth a beth i’w ddisgwyl 
- Ymdopi a sgil-effeithiau 
- Cwestiynau i ofyn eich tîm gofal iechyd 
- Pryderon am y dyfodol 
- Cymorth emosiynol ar ôl derbyn diagnosis 
- Gofalu am rywun sydd â  chanser 
- Dod o hyd i gymorth arall a allai fod o help 

Nid oes angen i chi wybod pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch chi cyn ffonio. Weithiau, y  peth anoddach yw gwybod ble i ddechrau- a dyna pam rydym yma.
Ffoniwch ni ar 0808 8080 1010. 

Pwy sy’n gallu cysylltu â’n Llinell Gymorth?

Mae ein Llinell Gymorth ar gael i:
- Pobl sy’n byw gyda chanser 
- Pobl sydd wedi derbyn diagnosis yn ddiweddar
- Aelodau'r teulu a ffrindiau 
- Gofalwyr
- Pobl sydd wedi cael profedigaeth ar ôl colli rhywun i ganser 
- Unrhyw un sy’n poeni am ganser neu’n cefnogi rhywun sy’n wynebu canser

Nid oes angen i chi fod yn derbyn triniaeth ac nad oes angen i chi gael yr holl atebion. 

Os yw canser yn effeithio ar eich bywyd, neu rydych yn ymdopi â cholli person annwyl i chi, rydym yma i wrando, eich cefnogi ac i’ch helpu i ddod o hyd i’r cymorth gorau. Ffoniwch ni ar 0808 8080 1010.

A oes well gennych ysgrifennu pethau i lawr?

Weithiau mae’n haws ysgrifennu na siarad ar y ffôn. Gyda’n gwasanaeth Gofyn i’r Nyrs, gallwch anfon eich cwestiynau at ein nyrsys arlein a chael ymateb. Does dim y fath beth â chwestiwn gwirion am ganser.

Gofynnwch i'r nyrs yma

Angen cymorth mwy rheolaidd?

Os ydych yn wynebu triniaeth, gall ein gwasanaeth Galw’n Ôl rhoi sgyrsiau cefnogol rheolaidd gyda Nyrs Canser arbenigol. Gall y gwasanaeth hwn eich helpu i deimlo mwy o gefnogaeth yn ystod eich triniaeth ac ymhell ar ei ôl. Darganfyddwch mwy am y gwasanaeth hwn gan alw ein Llinell Gymorth am ddim ar 0808 808 1010.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010