Skip to main content

Mae diagnosis canser yn gallu troi bywyd ben i waered. Mae’n siŵr y bydd gennych chi gwestiynau a phryderon, ac y byddwch chi eisiau siarad â rhywun. A dyna sut gallwn ni helpu.

Llinell Gymorth Am Ddim

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei garu wedi cael ei effeithio gan ganser, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Mae yno i unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan ganser ac mae ein nyrsys profiadol yn gallu cynnig cyngor ar ddiagnosis, triniaeth, sgil effeithiau ac unrhyw beth arall sy’n eich poeni. Mae ein tîm yma 365 diwrnod y flwyddyn i ateb pob math o gwestiynau am bob math o ganser, neu bethau nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn siarad â’ch teulu neu eich anwyliaid amdanyn nhw.

P’un ai ydych chi’n derbyn triniaeth, yn gwella ar ôl llawdriniaeth neu wedi colli rhywun rydych chi’n ei garu, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ffonio.

Ein Llinell Gymorth canser yw eich drwy at ein holl wasanaethau cymorth, felly i gael gwybod sut gallwn ni eich helpu chi, codwch y ffôn.

Mae ein Llinell Gymorth ar agor 9am – 5pm dydd Llun i ddydd Gwener, a 10am – 1pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus. Ffoniwch 0808 808 1010 am ddim.

Ysgrifennwch bethau i lawr

Os oes well gennych chi ysgrifennu pethau i lawr, beth am ddefnyddio ein gwasanaeth ‘Gofyn i’r Nyrs’. Fel yma, gallwch chi ysgrifennu eich cwestiynau neu eich pryderon, a gall ein nyrsys eich ateb mewn e-bost neu drefnu i ffonio ar adeg sy’n gyfleus.

Ein gwasanaeth ffonio’n ôl

Os ydych chi newydd gael diagnosis o ganser, mae ein gwasanaeth ffonio’n ôl am ddim yn gallu eich cefnogi wrth i chi gael eich triniaeth. Byddwch chi’n cael cyfres o alwadau rheolaidd gan un o’n nyrsys ymrwymedig sydd yn gallu ateb cwestiynau a chynnig cymorth ynglŷn ag unrhyw beth sydd i’w wneud â'ch diagnosis neu driniaeth.

Gallwch chi gyfeirio eich hunain at y gwasanaeth hwn drwy ffonio ein Llinell Gymorth canser am ddim ar 0808 808 1010.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010