Skip to main content

Mae ein gwerthoedd yn bwysig iawn i ni. Maen nhw’n llywio sut rydyn ni’n meddwl, yn gweithredu ac yn gweithio, fel unigolion, fel timau ac fel sefydliad. Rydyn ni’n chwilio am bobl i ddangos bod ganddyn nhw’r un gwerthoedd â ni pan rydyn ni’n chwilio am dalent newydd ac maen nhw’n rhan o sut rydyn ni’n asesu perfformiad hefyd.

Credwn fod y ffordd yr awn ati i wneud pethau drwy ein gwerthoedd i gyd yn rhan o gyflawni ein nodau. Dyma sut mae ein teulu’n gweithio ac mae’n rhan o’r diwylliant yma.

Parchus

Rydyn ni’n gwrando ar leisiau pobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw ac yn parchu hawl pawb i gael y gofal gorau, pwy bynnag ydyn nhw, lle bynnag y maen nhw’n byw.

Bod yn greadigol

Rydyn ni’n meddwl ac yn gwneud pethau’n wahanol, ond nid dim ond er mwyn gwneud hynny. Rydyn ni’n dod o hyd i atebion creadigol ac arloesol ac rydyn ni wrth ein boddau yn canu!

Cefnogi

Mae bod yn gefnogol yn rhan o bwy ydyn ni. Rydyn ni’n cefnogi pobl sydd â chanser a’u hanwyliaid, yn eu cymunedau eu hunain.

Ysbrydoli

Rydyn ni wedi cael ein hysbrydoli gan y bobl a’r cymunedau rydyn ni’n eu cefnogi ac yn gwneud ein gorau i ysbrydoli eraill.

Bod yn feiddgar

Dydyn ni ddim ofn gwneud pethau’n wahanol na dod o hyd i ffyrdd gwell o wneud pethau. Byddwn yn chwilio am gyfleoedd newydd ac yn wynebu heriau newydd i gyrraedd ein nodau.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010