Skip to main content

Rydyn ni’n ariannu ymchwil canser o’r radd flaenaf sy’n cynnwys amrywiaeth o brosiectau fel atal canser, diagnosis cynnar, triniaeth, cymorth, goroesi a gofal diwedd oes.

Mathau o ganser

Nid ydyn ni’n cyfyngu ein cyllid ymchwil i un math penodol o ganser. Mae llawer o’r prosiectau rydyn ni’n eu hariannu yn berthnasol i bob math o ganser, a gallen nhw fod o fudd i bob claf canser yn y pen draw. Rydyn ni hefyd yn ariannu ymchwil sy’n canolbwyntio ar fathau penodol o ganser. Mae’r rhain yn cynnwys rhai o’r rhai mwyaf cyffredin, gan gynnwys canser y fron, y prostad, yr ysgyfaint a chanser y coluddyn, ond hefyd rhai o’r canserau sy’n cael eu tanariannu, fel y pancreas, y groth, yr arennau, Lymffoma nad yw’n Hodgkins neu ganser y pen a’r gwddf.

Lleoliadau

Rydyn ni’n ariannu ymchwilwyr mewn sefydliadau ledled Cymru gan gynnwys prifysgolion, ysbytai, Byrddau Iechyd a lleoliadau cymunedol. Mae gennym ni ddiddordeb hefyd mewn gweithio ar y cyd a phartneriaethau. Os oes gennych chi syniad yr hoffech ei drafod, mae croeso i chi gysylltu â research@tenovuscancercare.org.uk.

Math o gyllid

Rydyn ni’n ariannu amrywiaeth eang o brosiectau drwy nifer o ffrydiau ariannu. Mae ein hymchwil yn y labordy yn ymchwilio i sut mae canser yn ffurfio, ac yn datblygu cyffuriau newydd ar gyfer rhai mathau o ganser sydd anoddaf i'w trin . Mae ein prosiectau yn y gymuned yn edrych ar sut i wella bywydau pobl drwy gydol eu taith canser, yn enwedig prosiectau sy’n cael effaith wirioneddol a pharhaol.


Mae’r ffrydiau ariannu hyn yn cael eu rhannu’n Ysgoloriaethau PhD, iGrants, Grantiau Strategaeth Ymchwil, ysgoloriaethau KESS a phrosiectau RCBS.

Ysgoloriaethau PhD

Mae ysgoloriaethau PhD yn brosiectau hirdymor sy’n mynd i’r afael â’r heriau mwy sylfaenol a chynhwysfawr y mae canser yn eu creu. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys arbenigedd i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn annibynnol ar y cylch gorchwyl i fwydo’n ôl yn uniongyrchol i wasanaethau Gofal Canser Tenovus. Rydyn ni’n cynnig hyd at £90,000 o gyllid ar gyfer prosiectau yn y labordy (hyd at £60,000 ar gyfer prosiectau nad ydyn nhw’n rhai llafur, yn y gymuned) dros gyfnod o dair blynedd. Ein myfyrwyr PhD yw dyfodol ymchwil canser, ac mae’r meddyliau ifanc disglair hyn yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau arloesol a chyffrous. 

iGrants

Mae ein iGrants yn cynrychioli prosiectau arloesol sy’n rhoi syniadau gwych ar waith. Maen nhw’n cynnwys cleifion a’r cyhoedd, yn dylanwadu ar bolisi ac ymarfer, ac yn buddsoddi yn y dyfodol. Mae’r rhain yn brosiectau sydd â’r potensial i newid triniaeth a gofal canser, gyda phwyslais arbennig ar gymhwyso a gweithredu.


Mae ein iGrants yn rhoi cyfle i Weithwyr Proffesiynol ym maes Gofal Iechyd ddatblygu ffyrdd newydd o drin a chefnogi cleifion canser a’u hanwyliaid, yn ystod ac ar ôl eu triniaeth. Mae ein cyllid iGrants yn cynnig uchafswm o £30,000 am hyd at 24 mis. Edrychwch ar ein iGrants presennol a’r rhai sydd wedi’u cwblhau yma.

Grantiau Strategaeth ymchwil

Mae ein Grantiau Strategaeth ymchwil yn cael eu hariannu gan ddarnau o waith ymchwil sy’n cael eu cynnal dros ddwy flynedd am hyd at £60,000 i hyrwyddo darpariaeth gwasanaethau a gweithgareddau Gofal Canser Tenovus. Mae hefyd yn gyfleuster i gynnal gwerthusiadau mwy, a mwy cynhwysfawr i fesur effeithiolrwydd y gwasanaethau presennol.

Mae ein Grantiau Strategaeth ymchwil yn dilyn themâu blaenoriaeth sydd â’r nod o fynd i’r afael â her benodol. Ein themâu blaenoriaeth ar gyfer 2019 oedd newidiadau ymddygiad, cyflwyniad cynharach, a byw gyda chanser a thu hwnt iddo. Edrychwch ar ein Grantiau Strategaeth ymchwil presennol a'r rhai sydd wedi’u cwblhau yma.

Ysgoloriaethau KESS

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd bwysig, a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector addysg uwch yng Nghymru. Mae KESS yn cynnig prosiectau ymchwil cydweithredol
sy’n gysylltiedig â chwmni partner lleol, gydag ysgoloriaethau a gefnogir gan Gyllid Cymdeithasol Ewrop ledled Cymru. I gael mwy o wybodaeth am raglen KESS, ewch i'w gwefan. Edrychwch ar ein ysgoloriaethau KESS presennol a’r rhai sydd wedi’u cwblhau yma.

Prosiectau RCBC

Partneriaeth rhwng chwe phrifysgol ac adrannau perthynol i iechyd yng Nghymru yw’r Cydweithrediad Cynyddu ymchwil sy’n ceisio cynyddu capasiti ymchwil ym maes nyrsio, bydwreigiaeth, fferylliaeth a phroffesiynau perthynol i iechyd.

Mae’r math hwn o gyllid yn caniatáu i newydd-ddyfodiaid neu’r rheini sy’n dymuno diweddaru eu harbenigedd ymchwil wneud ymchwil am un diwrnod yr wythnos dros 12 mis, gan ganiatáu i’r unigolyn aros yn ei swydd gyda’i gyflogwr presennol. Mae’r cynllun yn cael ei ariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac rydyn ni’n gwmni partner sy’n darparu cyllid ychwanegol. I gael mwy o wybodaeth am RCBC, ewch i’w gwefan. Edrychwch ar ein Prosiectau RCBC presennol a’r rhai sydd wedi’u cwblhau yma.

Galwadau cyllido

Rydyn ni’n agor ein galwadau am gyllid ymchwil ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth, ac i gofrestru i gael hysbysiadau am gyllid here.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010