Skip to main content

Mae llawer o fuddion wrth wirfoddoli a gallwch ddysgu am y rhain ar y dudalen hon. Os ydych eisiau gwybod mwy am ein gwerthoedd a’n diwylliant, cliciwch yma.

Pam gwirfoddoli?

Yn ogystal â gwneud gwahaniaeth a helpu ein gwaith, mae llawer o fanteision o wirfoddoli.

  • Rhoi hwb i’ch CV a chynyddu'ch siawns o gael swydd
  • Dysgu sgiliau newydd... neu wneud y gorau o’r sgiliau sydd gennych
  • Cael rhywfaint o hyfforddiant
  • Gwneud rhywbeth da gyda'ch amser hamdden
  • Cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd
  • Gwella'ch hyder
  • Cael rhywfaint o gydnabyddiaeth haeddiannol
  • Bod yn iachach ac yn hapusach, a chael hwyl!

Rhoi hwb i’ch CV a chynyddu'ch siawns o gael swydd

P'un ai a ydych chi'n dal yn yr ysgol, newydd adael y brifysgol neu'r coleg, yn chwilio am brofiad newydd neu'n awyddus i newid gyrfa, mae gwirfoddoli'n ychwanegiad gwych at unrhyw CV.

Mae gennym lawer o gyfleoedd yn Gofal Canser Tenovus sy’n golygu y gallwch roi cynnig ar wahanol rolau a meithrin sgiliau a phrofiadau newydd. Mae gwirfoddoli'n rhoi cyfle i chi roi cynnig ar yrfa newydd a chael profiad mewn maes newydd.

Gall roi cyfle i chi gwrdd â phobl newydd a meithrin perthnasoedd a allai fod o fudd i chi yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Yn ogystal â hyn, un o fanteision gwirfoddoli gyda ni yw y byddwch yn gallu gwneud cais am swyddi gwag allanol a mewnol.

Dysgu sgiliau newydd... neu wneud y gorau o’r sgiliau sydd gennych

Dydy’r ffaith bod gwaith gwirfoddol yn ddi-dâl ddim yn golygu nad ydy’r sgiliau a ddysgwch yn werthfawr. Drwy wirfoddoli, byddwch yn cael digon o brofiad ac yn cael cyfle i gael hyfforddiant gwahanol, yn dibynnu ar eich rôl.

Mae gwirfoddoli'n rhoi cyfle i chi archwilio eich diddordebau a meithrin sgiliau yn y maes hwnnw, gan droi eich diddordebau’n rhywbeth mwy gwerthfawr a bod o fudd i’r gymuned ehangach.

Digon o gyfleoedd hyfforddiant

Byddwn yn rhoi sesiwn gynefino a hyfforddiant llawn i chi yn eich rôl. Bydd gennych oruchwyliwr a all gynnig cyngor ac arweiniad i chi, ac efallai y bydd cyfleoedd i gysgodi aelodau o staff mewn gwahanol dimau. Dysgwch fwy am y datblygiad a’r hyfforddiant sydd ar gael i wirfoddolwyr yma.

Gwneud rhywbeth da gyda'ch amser hamdden

Efallai eich bod wedi ymddeol, wedi cymryd seibiant gyrfa, bellach yn ddi-waith, wedi gorfod rhoi’r gorau i weithio oherwydd rhesymau iechyd neu efallai eich bod wedi bod yn gofalu am rywun.

Gall mynd o weithio bum diwrnod yr wythnos i sylweddoli bod gennych amser ar eich dwylo fod yn brofiad rhyfedd. Ond gall gwirfoddoli fod yn rhywbeth newydd a chyffrous. Felly beth am ddefnyddio’r oriau sbâr hynny i’n helpu ni?

Beth bynnag fo’ch oed neu'ch sefyllfa, gall gwirfoddoli helpu i dynnu eich meddwl oddi ar eich pryderon eich hun, sicrhau eich bod yn cael eich ysgogi’n feddyliol, a rhoi ymdeimlad o bwrpas i chi drwy wneud gwahaniaeth.

Cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd

Yn Gofal Canser Tenovus gallwch gwrdd â llawer o bobl newydd; o'r rheini rydyn ni'n cynorthwyo sydd wedi'u heffeithio gan ganser, i aelodau o'n staff a'r cyhoedd, ynghyd â gwirfoddolwyr eraill.

Mae gwirfoddoli yn rhoi cyfle i chi gwrdd â phobl newydd, datblygu'ch sgiliau cymdeithasol a meithrin perthnasoedd newydd.

Efallai eich bod yn swil, neu eich bod wedi symud i ardal newydd, neu eich bod wedi dechrau swydd newydd ac yn ei chael yn anodd cwrdd â phobl. Pa ffordd well o ddod i adnabod eich cymuned na thrwy dreulio amser gyda phobl eraill a helpu i’w gwneud yn well.

Gwella'ch hyder

Drwy wneud pethau da i bobl eraill, byddwch yn cael eich gwobrwyo drwy deimlo eich bod wedi cyflawni rhywbeth. Ac os ydych chi’n teimlo’n well amdanoch chi’ch hun, y mwyaf tebygol ydych chi o edrych ymlaen at eich dyfodol yn fwy cadarnhaol.

Gall gwirfoddoli hefyd roi strwythur a threfn i chi a allai fod ar goll yn eich bywyd.

Mae gennym set o werthoedd sy’n helpu i siapio’r ffordd rydyn ni’n gweithio yma; bod yn feiddgar, yn gefnogol, yn ysbrydoledig, yn greadigol ac yn barchus. Mae ein gwerthoedd yn ein hannog i fod yn arloesol, yn greadigol ac yn frwdfrydig a gallan nhw gael dylanwad cadarnhaol ar eich bywyd personol a phroffesiynol.

Cael rhywfaint o gydnabyddiaeth haeddiannol

Rydyn ni bob amser yn rhannu straeon cadarnhaol ar draws ein gwefan, ein cyfryngau cymdeithasol a’r wasg am yr hyn mae ein gwirfoddolwyr yn ei wneud.

Ac os byddwch chi’n gwirfoddoli gyda ni, gallwch ennill tystysgrifau, bathodynnau, llythyrau cydnabod ac fe allech chi hyd yn oed gael eich enwebu am Wobr!

Bob blwyddyn rydyn ni’n cynnal ein Gwobrau Gwirfoddoli ein hunain. Dyma'n ffordd ni o ddiolch yn fawr iawn i’n gwirfoddolwyr gwych am eu holl waith caled, ac mae’n rhoi cyfle i ni rannu mwy o’u straeon anhygoel. Byddai cael eich enwebu ar gyfer gwobr yn edrych yn wych i ddarpar gyflogwyr ac mae’n sicr yn rhywbeth i’w rannu gyda ffrindiau a theulu!

Bod yn iachach, yn hapusach a chael hwyl

Mae gwirfoddoli'n dda ar gyfer eich iechyd meddyliol a chorfforol. Mae ymchwil yn awgrymu y gallai helpu i leihau straen a mynd i’r afael ag iselder, ac mae’n eich helpu i gadw’n gorfforol iach hefyd.

Profwyd hefyd fod pobl sy’n gwirfoddoli yn hapusach ar ôl iddyn nhw ddechrau gwirfoddoli nag yr oedden nhw o’r blaen. Felly, mae helpu pobl eraill yn rhoi teimlad o foddhad i chi. Felly po fwyaf rydych chi’n ei roi, y mwyaf hapus rydych chi’n teimlo!

Mae’n bwysig iawn i ni fod ein pobl yn hapus, ac yn iach, felly mae gennym raglen iechyd a llesiant i ofalu am ein gwirfoddolwyr a’n staff. Dysgwch fwy am sut rydyn ni’n gofalu am ein pobl.

Gall gwirfoddoli hefyd eich helpu i ddarganfod diddordebau newydd. I rai pobl, gall dynnu sylw oddi wrth eu trefn bob dydd. Yn ogystal â bod yn ystyrlon ac yn ddiddorol, gall fod yn hwyl hefyd!

Felly am beth rydych chi’n aros?

Gwneud ffrindiau newydd, ennill sgiliau newydd, ennill profiadau newydd a gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth i gleifion canser a’u hanwyliaid ledled y wlad. Ymunwch â Thîm Gofal Canser Tenovus heddiw, a chael gwybod sut beth yw bod yn un ohonom ni!