Skip to main content

Mae colli rhywun rydych chi’n ei garu yn gallu bod yn annioddefol. Ond gallwn ni eich cyfeirio chi at gymorth ymarferol, emosiynol ac ariannol a all eich helpu chi i ymdopi.

Os ydych chi wedi colli rhywun rydych chi’n ei garu i ganser

Mae’r rhestr o bethau mae angen i chi eu gwneud pan fo rhywun yn marw, yn gallu bod yn anodd. Yn enwedig pan rydych chi’n delio â galar a sioc. Cliciwch yma i gael canllaw cam-wrth-gam o beth fydd angen i chi ei wneud.

  • Mae’r gwasanaeth ‘Tell us once’ yn cael ei redeg gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac mae’n gadael i chi roi gwybod i wasanaethau llywodraeth leol a chanolog am y farwolaeth, a hynny ar yr un pryd. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi ysgrifennu at, neu ffonio, pob gwasanaeth.

  • Efallai y byddwch chi’n gymwys i gael help tuag at gostau’r angladd trwy Daliadau Costau Angladd os mai chi sy’n gyfrifol am gost yr angladd, ac eich bod yn derbyn budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd perthnasol.

  • Efallai y byddwch chi’n gymwys i dderbyn budd-daliadau profedigaeth fel Taliadau Cymorth mewn Profedigaeth neu Lwfans Profedigaeth, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

  • Os ydych chi’n ei chael yn anodd delio â marwolaeth anwyliad, gallwch chi ffonio ein Llinell Gymorth am ddim ar 0808 808 1010.

  • Mae llawer o bobl sydd wedi dioddef galar yn cael cymorth trwy ein corau Sing with Us

  • Gallwch chi ddod o hyd i fathau eraill o gymorth emosiynol trwy’r Cyfeiriadur Cwnsela sydd â manylion cynghorwyr a therapyddion lleol.

  • Mae Winston’s Wish yn cefnogi plant a phobl ifanc yn dilyn marwolaeth aelod o’u teulu.

Cysylltwch â’n Tîm Cyngor
Cysylltwch â’n tîm cyfeillgar a fydd yn gallu eich helpu gyda chyngor, neu ewch yma am fwy o wybodaeth am faterion ariannol.  Defnyddiwch ein ffurflen Gofyn i’r Cynghorwr neu ffoniwch eich Llinell Gymorth am ddim ar 0808 808 1010.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010