Skip to main content

Mae derbyn prognosis byr neu o ganser wedi gwaethygu yn gallu bod yn anodd iawn i chi a’ch anwyliaid. Mae’r effaith emosiynol ac ymarferol yn anferth ac efallai y byddwch chi’n teimlo eich bod chi’n ei chael yn anodd ymdopi. Fe allwn ni helpu.

Siaradwch am beth yr hoffech chi

Siarad am farwolaeth a marw yw’r cam cyntaf. Mae’n brofiad y byddwn ni i gyd yn ei gael ar un adeg yn ein bywydau, ond mae yno anfodlonrwydd a stigma yn parhau i fod yn ei gylch. Mae’n peri gofid i lawer o bobl ac maen nhw’n gwrthod ei drafod hyd yn oed.

Trwy ein bywydau rydyn ni’n cynllunio i bethau fynd yn iawn, a sut rydyn ni eisiau i bethau ddigwydd. Rydyn ni’n gwneud cynlluniau geni a chynlluniau priodi, felly pam ddim cynlluniau marw? Os ydych chi’n byw gyda chanser na ellir ei wella, fe all deimlo eich bod chi wedi colli rheolaeth. Ond mae gwneud cynlluniau ar gyfer eich marwolaeth neu farwolaeth anwyliad yn gallu helpu i wneud i chi deimlo bod gennych chi reolaeth.

Mae nifer o benderfyniadau y mae angen eu gwneud pan rydych chi’n dechrau cynllunio ar gyfer marwolaeth. Mae’n gallu bod yn anodd iawn i chi ac i’ch teulu. Ond mae’n gallu eich helpu i ddod i delerau â’r hyn sy’n digwydd, a gwneud yn siŵr eich bod chi’n gwneud y penderfyniadau mawr gyda’ch gilydd.

Cynllunio ar gyfer eich gofal diwedd oes

Cynllun Gofal Ymlaen Llaw

Mae hefyd yn cael ei alw’n Ddatganiad Ymlaen Llaw, mae’n golygu meddwl am y gofal â’r driniaeth y byddwch chi’n eu derbyn ym misoedd olaf eich bywyd, gan gynnwys y rhai nad ydych chi eu heisiau. Mae trafod hyn yn gynnar a’i ysgrifennu i lawr, yn golygu y gallwch chi wneud yn siŵr bod eich teulu yn ymwybodol o’ch dymuniadau, tra rydych chi dal yn gallu gwneud hynny. Bydd o gymorth iddyn nhw os bydd angen iddyn nhw wneud penderfyniadau ynglŷn â’ch gofal ar eich rhan.

Penderfyniad Ymlaen Llaw

Mae hefyd yn cael ei alw’n Ewyllys Byw, mae Penderfyniad Ymlaen Llaw yn nodi pa driniaethau y byddwch chi eisiau eu gwrthod yn y dyfodol.

Atwrneiaeth Arhosol

Ystyr hyn yw pan fyddwch chi’n penodi rhywun a fydd yn gallu gwneud penderfyniadau am eich gofal yn y dyfodol pan na fyddwch chi’n gallu gwneud hynny.

Gwneud neu ddiweddaru eich Ewyllys tuag at ddiwedd eich oes

Mae’n bwysig sicrhau eich bod chi’n gwneud neu’n diweddaru eich Ewyllys, i adlewyrchu eich dymuniadau o ran beth fydd yn digwydd ar ôl i chi farw. Mae’n golygu y byddwch chi’n gallu gofalu am eich anwyliaid, yn ogystal â lleihau straen a chostau yn nes ymlaen. Os nad oes gennych chi Ewyllys, bydd y llywodraeth yn penderfynu beth fydd yn digwydd i’ch arian a’ch asedau.

Gwneud Ewyllys am ddim

Gallwn ni eich helpu i wneud neu ddiweddaru eich Ewyllys am ddim trwy ein cynllun Ewyllysiau am Ddim. Fe wnawn ni eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr fydd yn gallu ymweld â chi yn eich cartref, hosbis neu ysbyty, a hynny’n fyr rybudd. Dysgwch ragor am Ewyllysiau am Ddim yma.

Llythyr dymuniadau

Efallai y byddwch chi eisiau ysgrifennu rhywbeth o’r enw ‘Llythyr dymuniadau’ sef dogfen gynorthwyol i’ch Ewyllys sy’n cael ei storio gyda hi fel arfer. Nid yw hon yn ddogfen gyfreithiol, ond mae’n ffordd i chi rannu eich dymuniadau olaf, eich meddyliau ac unrhyw beth arall yr hoffech chi ei ddweud wrth eich anwyliaid ar ôl i chi farw. Weithiau mae ysgrifennu’r pethau hyn i lawr yn haws, ac fe all fod yn rhywbeth i’ch teulu ei drysori. 

Eich etifeddiaeth ddigidol

Y dyddiau hyn mae cael nifer o gyfrifon ar-lein a phroffiliau cyfryngau cymdeithasol yn normal. Pan fyddwch chi’n cynllunio ar gyfer y dyfodol, efallai y byddai’n ddefnyddiol gwneud rhestr o’r cyfrifon hyn, yn enwedig y rheini sydd ar danysgrifiad, rhannu cyfrineiriau gydag anwyliaid, neu yn achos Facebook, enwebu cyswllt etifeddol. Efallai y byddwch chi eisiau trafod gyda’ch anwyliaid beth yr hoffech chi iddyn nhw ei wneud gyda’ch tudalen Facebook, os oes gennych chi un, gan fod modd eu gwneud yn gofeb neu eu dileu. Cewch ragor o wybodaeth yma

Cynllunio ar gyfer eich angladd
Mae cynllunio ar gyfer eich angladd yn gyfle i chi siarad â’ch anwyliaid am beth yr hoffech chi ddigwydd. Gallwch chi feddwl am bethau y byddech chi eu hoffi fel y canlynol:

  • Beth yr hoffech chi ddigwydd i’ch corff – claddedigaeth neu amlosgiad, ac os hoffech chi gael eich amlosgi beth hoffech chi ddigwydd i’ch lludw.
  • Pa fath o arch byddai orau gennych chi
  • P’un ai yw’r seremoni yn grefyddol neu beidio
  • Pa ganeuon neu flodau yr hoffech chi a beth rydych chi eisiau i bobl ei wisgo
  • Sut y bydd pobl yn dathlu eich bywyd
  • P’un ai ydych chi’n gofyn am roddion yn lle blodau ac os ydych chi, at ba elusen. Byddwn ni’n wastad yn ddiolchgar am roddion er cof a gallwn ni ddarparu amlenni rhoi ar gais.

Cymorth emosiynol ac ymarferol i chi a’ch anwyliaid
Mae gwybod eich bod chi neu anwyliad yn mynd i farw’n fuan yn gallu cael effaith fawr yn emosiynol ac yn feddyliol. Ond mae llawer o gymorth ar gael.

  • Os hoffech chi siarad â rhywun am farwolaeth a marw gallwch chi ffonio ein Llinell Gymorth am ddim ar 0808 808 1010. Mae ein nyrsys yma i siarad â chi am bethau meddygol ac ymarferol, ynghyd â bod yno i wrando.
  • Gallwch chi ddod o hyd i fathau eraill o gymorth emosiynol drwy Marie Curie yma.
  • Efallai y dewch chi o hyd i gymorth defnyddiol yma.

Cysylltwch â’n Tîm Cyngor.

Defnyddiwch ein ffurflen Gofyn i’r Cynghorwr neu ffoniwch eich Llinell Gymorth am ddim ar 0808 808 1010.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010