Skip to main content

Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cael canser dros 65 oed. Mae’n weddol anghyffredin i bobl ifanc (o dan 50) gael canser. Os oes gennych chi ddim ond un perthynas oedrannus â chanser, fel arfer, ni ydych chi â risg sylweddol uwch o gael yr un canser eich hun.  Dim ond lleiafrif o ganserau (5 i 10%, neu lai na 10 o bob 100 achos) sydd oherwydd eich genynnau. 

Yn gyffredinol, mae achosion canser yn syrthio i ddau grŵp - pethau y gallwn ni eu rheoli a phethau na allwn ni eu rheoli. Mae’r olaf yn cynnwys newidiadau ar hap i’n genynnau wrth i ni heneiddio neu’r rheini sy’n cael eu pasio trwy deuluoedd.

Ffordd o fyw

Mae ymchwil yn dangos y gellir rhwystro tua 40% o’r holl ganser yn y DU drwy newidiadau syml i ffordd o fyw. Mewn gwirionedd, dangosodd canfyddiadau a gyhoeddwyd yn y British Journal of Cancer (2018) y gellid rhwystro 135,000 o achosion o ganser yn flynyddol yn y DU drwy newidiadau i ffordd o fyw. Pe byddai yno dabled i gael manteision o’r fath, bydden ni’n rhuthro i weld ein meddyg, ond gallwn ni wella ein lwc drwy wneud newidiadau syml i’n ffordd o fyw. 

Stopio ysmygu

Ysmygu sy’n achosi’r nifer fwyaf o achosion y mae modd eu rhwystro ac mae’n gysylltiedig ag o leiaf 15 math o ganser gan gyfrannu at 54,300 o achosion o ganser bob blwyddyn yn y DU. Mae’n achosi tua 7 o bob 10 achos o ganser yr ysgyfaint a dyma’r achos mwyaf cyffredin o farwolaethau oherwydd canser.

Mae nifer y blynyddoedd a dreuliwyd yn ysmygu yn effeithio’n gryfach ar y perygl o ganser ac y mwyaf o sigaréts sy’n cael eu hysmygu bob dydd, y mwyaf yw’r risg o ganser.

Mae cyfraddau ysmygu wedi syrthio’n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf ynghyd â chwymp yn nifer yr achosion o ganser a achoswyd gan ysmygu dros y pum mlynedd ddiwethaf. Dydy hi byth yn rhy hwyr i gael help gan y gwahanol wasanaethau rhoi gorau i ysmygu a chael gwared ar dybaco. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â sut y gallwch chi leihau eich risg o ganser drwy roi’r gorau i ysmygu.

Cynnal pwysau iach

Bod dros bwysau yw’r ail achos mwyaf o ganser yn y DU ac mae’n gysylltiedig â 13 math gwahanol o ganser. Mae tua 22,800 achos o ganser bob blwyddyn y gellir eu cysylltu â phobl dros eu pwysau neu’n ordew. Yn wahanol i ysmygu, mae lefelau gordewdra wedi cynyddu dros y ddau ddegawd diwethaf, felly mae’n debygol y byddwn ni’n gweld mwy a mwy o ganserau yn gysylltiedig â hyn.

Mae gordewdra yn cael ei achosi gan fwyta mwy o galorïau mewn bwyd a diod nag sy’n cael eu llosgi trwy weithgaredd corfforol. Mae prysurdeb bywyd bob dydd, hysbysebu, labeli bwyd dryslyd, bwyd brys, dognau mwy, a’r mathau o fwyd sydd ar gael yn gallu ei gwneud yn anodd gwneud opsiynau bwyta iach. Ond, mae gwneud y dewisiadau cywir o ran bwyd a chynnal gweithgarwch rheolaidd yn bwysig ar gyfer lleihau’r risg o ganser. Darllenwch fwy am fyw'n iach yma.

Cadw'n ddiogel yn yr haul

Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr haul yn tywynnu yn y DU felly mae’n hawdd anghofio cadw ein hunain yn ddiogel pan fydd yr haul yn ymddangos. Ond, y prif achos gyda phob math o ganser y croen yw golau uwchfioled sy’n dod o’r haul neu o welyau heulfelynu. Mae’r golau uwchfioled yn niweidio'r DNA mewn celloedd croen a gall hyn digwydd flynyddoedd cyn i ganser y croen ddatblygu.

Y prif achos gyda phob math o ganser y croen yw uwchfioled. Mae dau brif fath o ganser y croen; melanoma ac anfelanoma. Mae tua 72,000 o achosion o ganser y croen anfelanoma a 16,000 o achosion o felanoma yn y DU bob blwyddyn,

Gall unrhyw un ddatblygu canser y croen ond rydych chi’n wynebu risg arbennig os oes gennych chi groen golau, llawer o fannau geni neu frychni haul, gwallt coch neu olau, llygaid golau, eich bod yn defnyddio gwelyau heulfelynu, gyda hanes teuluol o ganser y croen neu wedi cael canser y croen o’r blaen, neu eich bod yn cymryd meddyginiaeth sy’n effeithio ar eich system imiwnedd.

Mae modd osgoi 86% o achosion o ganser y croen felly mae’n bwysig cymryd camau rhesymol i fwynhau’r haul yn ddiogel. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i gadw’n ddiogel yn yr haul yma.

Alcohol

Mae alcohol yn gyffredin yn ein diwylliant ac yn aml mae’n cael ei gysylltu ag amser da. Ond, p’un ai yw’n ‘yfed iechyd y babi’ neu ddathlu llwyddiant eich hoff dîm, mae’r risg o ganser yn cynyddu wrth yfed dim ond ychydig o alcohol. Mae yfed alcohol yn cynyddu’r risg o ganser p’un ai yw’n cael ei yfed ar yr un pryd neu’n cael ei yfed drwy’r wythnos.

Mae alcohol yn gallu achosi saith gwahanol fath o ganser. Yr alcohol ei hun sy’n achosi’r niwed, nid y math o ddiod alcoholig rydych chi’n ei dewis. Mae alcohol yn cynyddu’r risg o ganser y geg, canser ffaryngeal (blaen y gwddf), canser yr oesoffagws (y bibell fwyd), canser breuannol (y corn gwddf), canser y fron, canser y coluddyn a chanser yr iau.

Mae yfed ac ysmygu gyda’i gilydd yn waeth na dim ond un ohonynt gan eu bod gyda’i gilydd yn achosi mwy o ddifrod i gelloedd trwy’r corff.

Dydy hyn ddim yn golygu y bydd pawb sy’n yfed alcohol yn datblygu canser, ond wrth gymharu’r boblogaeth i gyd, mae pobl sy’n yfed alcohol yn fwy tebygol o ddatblygu canser na phobl sydd ddim yn yfed alcohol. Mae alcohol yn achosi 11,900 o achosion o ganser bob blwyddyn yn y DU.

Beth bynnag yw eich lefel o yfed, bydd yfed llai yn lleihau'ch risg o ddatblygu canser, ac yn helpu chi cynnal pwysau iach. Mae cadw i ganllawiau’r llywodraeth o 14 uned yr wythnos yn syniad da.

Feirysau

Mae yno rai canserau sydd wedi cael eu cysylltu â feirysau, gan gynnwys yr HPV (feirws papiloma dynol). Mae canserau sy’n cael eu hachosi gan feirysau yn fach o ran nifer, ond mae’r gwaith ymchwil ar gynnydd o ran brechiadau pellach a fydd yn targedu feirysau a allai sbarduno gwallau genetig sy’n achosi clefydau.

Yr amgylchedd o’ch cwmpas

Wrth i’n hymwybyddiaeth o ganser gynyddu, mae ein hymwybyddiaeth o ffactorau risg galwedigaethol sy’n achosi canser wedi cynyddu hefyd. Yn ffodus, mae newid diwylliannol mawr wedi bod ynglŷn â sut rydyn ni’n diogelu pobl rhag carsinogenau fel llawer o gemegau, deunyddiau ymbelydrol ac asbestos. Ond yn anffodus, mae cenhedlaeth o bobl na chawson nhw eu diogelu rhag y peryglon hyn a dim ond yn ddiweddarach yn eu bywydau, y mae effaith y sylweddau peryglus hyn ar eu hiechyd yn dod i’r amlwg.

Heddiw, mae ffactorau fel llygredd aer sy’n cael ei achosi gan fygdarth o gerbydau a ffatrïoedd, neu fwg o losgi tanwydd fel coed neu lo, wedi cael ei brofi i fod yn achosi canser. Mae ffigurau’n dangos bod bron i 1 o bob 10 achos o ganser yr ysgyfaint yn y DU yn cael ei achosi drwy ddod i gysylltiad â llygredd aer yn yr awyr agored. Mae llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol yn gweithio i wella ansawdd yr aer, yn arbennig mewn dinasoedd mawr.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010