Skip to main content

Rheoli eich arian os ydych chi wedi cael eich effeithio gan ganser

Os ydych chi neu eich anwyliad wedi cael diagnosis canser, mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod chi’n gofalu am eich arian, ac eich bod yn ymwybodol o beth sy’n dod i mewn a beth sy’n mynd allan.

Talu eich rhent neu forgais os oes gennych chi ganser

Un o’r prif bryderon ariannol sy’n wynebu pobl sy'n byw gyda canser yw parhau i dalu eu rhent neu forgais. Mae’n bosib mai dyma’r taliad drytaf sydd gennych chi. Gall ein Cynghorwyr eich helpu i edrych ar nifer o bethau gan gynnwys y canlynol:

  • Budd-dal Tai sydd ar gael i bobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ar incwm isel i helpu tuag at dalu eich rhent. Mae cymhwysedd yn dibynnu ar eich incwm a’ch arbedion a rhaid i chi fod yn gyfrifol am dalu rhent.
  • Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei hawlio gan bobl o oedran gweithio, os ydyn nhw angen cymorth i dalu eu rhent, sef yr elfen costau tai. Mae cymhwysedd yn dibynnu ar eich incwm a’ch arbedion a rhaid i chi fod yn gyfrifol am dalu rhent.
  • Os oes gennych chi forgais, efallai y byddwch chi’n gallu gwneud cais am fenthyciad gan y llywodraeth i helpu i dalu taliadau llog eich morgais, os ydych yn gymwys am fudd-daliadau cymhwyso penodol.
  • Os ydych chi’n talu morgais, efallai y byddwch chi’n gallu siarad â’ch banc neu gymdeithas adeilad am gymryd ‘gwyliau’ neu egwyl dâl, neu symud i forgais llog yn unig. Mae hyn yn golygu gohirio neu leihau eich taliadau misol. Byddwch chi’n dal i orfod talu’r llog ar eich morgais.
  • Os oes gennych chi bolisïau yswiriant yn gysylltiedig â’ch morgais, efallai y bydd y costau’n gallu cael eu talu.

Biliau’r cartref

Ar ôl eich rhent neu eich morgais rydych chi’n debygol i wario llawer o arian ar eich biliau. Efallai yr hoffech ystyried y pethau canlynol:

  • Mae rhai pobl sy’n cael triniaeth at ganser yn gallu teimlo’n oer, a dyna pam fod yna grantiau a gostyngiadau ar gael at gostau gwresogi.
  • Efallai fod gan eich cwmni ynni neu ddŵr gynllun i helpu i leihau eich biliau, gallwn ni eich helpu i ddarganfod beth allai fod ar gael.
  • Yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion, efallai y byddwch chi’n gymwys am Ostyngiad Treth Cyngor sy’n gallu golygu taliad llawn neu rannol tuag at eich bil treth cyngor. Fe gewch chi wneud cais p’un ai ydych chi’n rhentu neu’n berchen ar eich cartref.

Lleihau costau - cymariaethau, cynllunio, cynilo

Mae cael rheolaeth dros eich arian yn golygu bod yn ymwybodol o beth sy’n dod i mewn a beth sy’n mynd allan. Mae’n bwysig bod yn gynnil gyda’ch arian fel eich bod chi’n gallu talu eich holl gostau, ac nad ydych chi’n fyr ar ddiwedd y mis.

  • Defnyddiwch wefannau cymharu fel Go Compare i weld p’un ai ydych chi’n cael y fargen orau ar bethau fel eich ynni, yswiriant car neu dŷ, biliau ffôn neu fand eang.
  • Adolygwch eich taliadau a’ch Debydau Uniongyrchol misol i weld a oes unrhyw beth nad oes ei angen ac y gallwch chi fyw hebddo.
  • Cynlluniwch eich prydau i leihau gwastraff bwyd a chwiliwch ar-lein am ryseitiau sy’n gallu defnyddio gwastraff.
  • Rhowch ddarlleniadau metr rheolaidd i’ch darparwr ynni fel eich bod chi’n cael biliau cywir.
  • Edrychwch ar petrolprices.com lle gallwch chi roi eich cod post a chael y prisiau petrol diweddaraf ar gyfer eich ardal.
  • Gyda’ch treth cyngor gallwch chi gysylltu â’ch awdurdod lleol a gofyn am gael talu eich bil dros 12 mis yn hytrach na 10 pan fyddwch chi’n derbyn hysbysiad yn nodi faint o dreth cyngor y bydd angen i chi ei thalu dros y flwyddyn. Weithiau bydd modd adolygu hwn trwy gydol y flwyddyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
  • Os oes gennych chi becyn teledu gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwylio’r holl sianeli.
  • Yn hytrach na archebu dillad brand efallai y gallwch chi ystyried archebu nwyddau o siopau elusen lle gallwch chi gael bargeinion anhygoel. Gallwch chi ddod o hyd i’ch siop Gofal Canser Tenovus agosaf yma
  • Os ydych chi’n talu ffi cyfrif banc er mwyn cael pecyn buddion gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio’r buddion hynny i gyd.

Cysylltwch â’n Tîm Cyngor Buddion

Cysylltwch â’n tîm cyfeillgar a fydd yn gallu rhoi cyngor ynglŷn â bod yn ofalus gyda’ch arian.  Defnyddiwch ein ffurflen Gofyn i’r Cynghorwr Budd-daliadau neu ffoniwch eich Llinell Gymorth am ddim ar 0808 808 1010.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010