Skip to main content
Mon 04 Dec 2023

Tenovus Cancer Care receives approval from Welsh Language Commissioner for ‘Cynnig Cymraeg’

The Welsh Offer or ‘Cynnig Cymraeg’ is recognition given by the Welsh Language Commissioner to organisations with a strong plan for the Welsh language.

Tenovus Cancer Care received the accreditation after working with the Hybu team to develop its ‘Cynnig Cymraeg’ over the last year.

The charity created a Welsh language working group, named Grŵp Cymraeg, with representation from across departments to help achieve this.

Chair of Tenovus Cancer Care’s Grŵp Cymraeg, Catrin Hallett, said: “As a Wales-based charity, we regard the Welsh and English languages with equal importance and strive to make constant progress towards improving our offering to Welsh speakers.

“The Cynnig Cymraeg has helped us improve, formalise, and standardise our offer across the charity. We’re grateful to the Hybu team who have been there to support and encourage every step of the way. We know this will make a difference to the people we support and those who support us.”

One of the services Tenovus Cancer Care offers through the medium of Welsh is Counselling. The specialist service provides a safe and confidential space for individuals to talk about the impact of cancer and whatever matters most to them. Since the launch of the service last year, 24 clients have received support through the medium of Welsh.

Counsellor at Tenovus Cancer Care, Lisa Channon, said: “Many of our Welsh speaking clients are told of their diagnosis in English and attend appointments in English. For us as a service to be able to offer the opportunity for individuals to talk about very private and personal feelings about the impact of cancer in their first language enhances the emotional safety that Counselling can provide, along with promoting individuality and choice.”

Tenovus Cancer Care’s ‘Cynnig Cymraeg’ is:

  • Our services, such as the Support Line and Counselling, are available through the medium of Welsh.
  • Information about our support services, including leaflets and welcome packs, are available in Welsh and English. Other materials, such as fundraising and campaigns, are available bilingually when possible.
  • We welcome communication in Welsh as well as English. If no Welsh speaker is available on our Support Line, we will arrange for the call to be returned as soon as possible. If you write to us in Welsh, we will respond in Welsh.
  • The key pages on our website, including information about cancer, our services, and how to contact us, are bilingual. The languages appear separately, and it is possible for the user to move from one language to the other at any time by using a prominent language switch, at the top of the page.
  • We are proud to have several Welsh speaking staff who we encourage to identify their skills to the public with Iaith Gwaith resources including badges, lanyards, business cards.
  • We have Welsh speakers available for press and media

Gofal Canser Tenovus yn derbyn cymeradwyaeth Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer ‘Cynnig Cymraeg’

Mae’r Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth a roddir gan Gomisiynydd y Gymraeg i sefydliadau sydd â chynllun cryf ar gyfer y Gymraeg.

Derbyniodd Gofal Canser Tenovus yr achrediad ar ôl gweithio gyda’r tîm Hybu i ddatblygu ei ‘Cynnig Cymraeg’ dros y flwyddyn ddiwethaf.

Creodd yr elusen weithgor iaith Gymraeg, o’r enw Grŵp Cymraeg, gyda chynrychiolaeth o bob adran i helpu i gyflawni hyn.

Dywedodd Catrin Hallett, Cadeirydd Grŵp Cymraeg Gofal Canser Tenovus: “Fel elusen sydd wedi’i lleoli yng Nghymru, rydym yn ystyried y Gymraeg a’r Saesneg yr un mor bwysig â’i gilydd ac yn ymdrechu i wneud cynnydd cyson tuag at wella’r hyn rydym yn ei gynnig i siaradwyr Cymraeg.

“Mae’r Cynnig Cymraeg wedi ein helpu i wella, ffurfioli a safoni ein cynnig ar draws yr elusen. Rydym yn ddiolchgar i’r tîm Hybu sydd wedi bod yno i gefnogi ac annog pob cam o’r ffordd. Rydyn ni’n gwybod y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi a’r rhai sy’n ein cefnogi ni.”

Un o'r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg yw Cwnsela. Mae'r gwasanaeth arbenigol yn darparu lle diogel a chyfrinachol i unigolion siarad am effaith canser a beth bynnag sydd bwysicaf iddynt. Ers lansio'r gwasanaeth y llynedd, mae 24 o gleientiaid wedi derbyn cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd cynghorydd Gofal Canser Tenovus, Lisa Channon: “Mae llawer o’n cleientiaid iaith Gymraeg yn cael gwybod am eu diagnosis yn Saesneg ac yn mynychu apwyntiadau yn Saesneg. Mae’r ffaith ein bod ni fel gwasanaeth yn gallu cynnig y cyfle i unigolion siarad am deimladau preifat a phersonol iawn am effaith canser yn eu hiaith gyntaf yn gwella’r diogelwch emosiynol y gall Cwnsela ei ddarparu, ynghyd â hyrwyddo unigoliaeth a dewis.”

Dyma ‘Cynnig Cymraeg’ Gofal Canser Tenovus:

  • Mae ein gwasanaethau, fel y Llinell Gymorth a gwasanaethau Cwnsela ar gael yn Gymraeg.
  • Mae gwybodaeth am ein gwasanethau cymorth, gan gynnwys taflenni gwybodaeth a phecynnau croeso, ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae deunyddiau eraill, fel deunydd codi arian ac ymgyrchoedd, ar gael yn ddwyieithog lle bo’n bosib.
  • Rydym yn croesawu cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg. Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael drwy ein Llinell Gymorth, byddwn ni’n trefnu bod rhywun yn eich ffonio yn ôl cyn gynted â phosib. Os ydych yn ysgrifennu atom yn Gymraeg, byddwn ni’n ymateb yn Gymraeg.
  • Mae'r tudalennau allweddol ar ein gwefan ar gael yn ddwyieithog, gan gynnwys gwybodaeth am ganser, ein gwasanaethau, a sut i gysylltu â ni. Mae'r ieithoedd yn ymddangos ar wahân, ac mae modd i'r defnyddiwr symud o un iaith i'r llall ar unrhyw adeg trwy ddefnyddio botwm iaith amlwg, ar frig y dudalen.
  • Rydym yn falch bod gennym nifer o staff sy'n siarad Cymraeg. Rydym yn eu hannog i amlygu eu sgiliau i'r cyhoedd gydag adnoddau Iaith Gwaith gan gynnwys bathodynnau, cortynnau gwddf, cardiau busnes.
  • Mae gennym siaradwyr Cymraeg ar gyfer cyfweliadau’r wasg a chyfryngau.

If you or someone you love has been affected by cancer, our free Support Line is there for you. Just call 0808 808 1010