Skip to main content
Thu 21 Sep 2023

Statement on latest cancer waiting times

Judi Rhys, MBE, Chief Executive of Tenovus Cancer Care, said: “Today’s cancer waiting times fail to show any improvement. Cancer services are in crisis, and likely to get even worse with the proposed budget cuts ahead. This is unchartered territory and we are really concerned.

Welsh Government took a leap of faith in introducing the Single Cancer Pathway, setting a 62-day target from first suspicion of cancer to starting treatment. We knew it would expose delays hidden by the old system, and performance data would see a dip before improving. However, the pandemic derailed improvement plans for cancer services, and we’re now left with the frightening truth of the catastrophic waits some people are experiencing.

In 2020, new detected cases of cancer nose-dived by 14.2% in Wales. That’s 2,879 fewer people potentially undiagnosed and presenting later, adding an enormous amount of pressure across the health service as they deal with the backlog.

When looking through the lens of the Single Cancer Pathway, it can be easy to overlook the heart-breaking impact of these waits on people’s mental health and wellbeing. Behind every statistic is a person, and a family, fearing the future.

The only positive to take from this is that we are seeing the raw reality of where our system is and the long journey ahead of us. Our services are in high demand and will continue to be here for everyone who needs us.”

 

“Nid yw amseroedd aros canser heddiw yn dangos llawer o welliant. Mae gwasanaethau canser mewn argyfwng, ac yn debygol o waethygu gyda’r toriadau arfaethedig yn y gyllideb sydd o’n blaenau. Mae hon yn digynsail ac rydym yn wirioneddol bryderus.

Cymerodd Llywodraeth Cymru naid ffydd wrth gyflwyno’r Llwybr Canser Sengl, gan osod targed 62 diwrnod o’r amheuaeth gyntaf o ganser i ddechrau triniaeth. Roeddem yn gwybod y byddai'n amlygu oedi a guddiwyd gan yr hen system, a byddai data perfformiad yn gweld gostyngiad cyn gwella. Fodd bynnag, fe wnaeth y pandemig ddileu cynlluniau gwella ar gyfer gwasanaethau canser, ac rydym bellach yn cael y gwir brawychus am yr amseroedd aros trychinebus y mae rhai pobl yn eu profi.

Yn 2020, gwelwyd gostyngiad o 14.2% yn nifer yr achosion newydd o ganser a ganfuwyd yng Nghymru. Mae hynny’n 2,879 yn llai o bobl o bosibl heb gael diagnosis ac yn cyflwyno’n ddiweddarach, gan ychwanegu pwysau aruthrol ar draws y gwasanaeth iechyd wrth iddynt ddelio â’r ôl-groniad.

Wrth edrych trwy lens y Llwybr Canser Sengl, gall fod yn hawdd anwybyddu effaith dorcalonnus yr amseroedd aros hyn ar iechyd meddwl a lles pobl. Y tu ôl i bob ystadegyn mae person, a theulu, yn ofni'r dyfodol.

Yr unig beth cadarnhaol i'w gymryd o hyn yw ein bod yn gweld realiti y system a'r daith hir o'n blaenau. Mae galw mawr am ein gwasanaethau a byddant yn parhau i fod yma i bawb sydd ein hangen.”

If you or someone you love has been affected by cancer, our free Support Line is there for you. Just call 0808 808 1010