Skip to main content

Mae gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU rôl enfawr i’w chwarae o ran atal canser, rhoi diagnosis, trin a chefnogi pobl sy’n byw gyda chanser a thu hwnt. Dyna pam rydym yn gweithio ochr yn ochr â gwleidyddion i helpu i gynrychioli cleifion canser a’u hanwyliaid. 

Beth rydyn ni’n ei wneud

Rydyn ni’n falch o weithio gydag Aelodau’r Senedd ac Aelodau Seneddol ar draws pob plaid ac i fod yn llais i bobl sy’n byw gyda chanser a thu hwnt yng Nghymru.

Sut gallwn ni gefnogi Aelodau’r Senedd ac Aelodau Seneddol

Rydyn ni’n ymateb i ystod eang o ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a’u Seneddau ac rydyn ni’n eistedd ar nifer o gyrff cenedlaethol sy’n dylanwadu ar bolisi canser yng Nghymru. 

Mae Gofal Canser Tenovus hefyd yn cefnogi gwleidyddion etholedig drwy drefnu’r canlynol:

  • Gwybodaeth gefndir ac ystadegau ar gyfer gwaith briffio a chraffu.
  • Cyfleoedd i fynd ar daith labordy, ymweld ag un o’n Hunedau Cymorth Symudol yn eich etholaeth neu ranbarth, neu fynd i ymarfer côr Sing with Us. Fodd bynnag, oherwydd pandemig COVID-19 nid ydym yn gallu cynnig y cyfleoedd hyn i aelodau etholedig
  • Cefnogaeth i ymateb i waith achos.

Syniadau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru

Rydyn ni wedi cyhoeddi ein ‘Syniadau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru’, sef rhestr o syniadau da yr hoffem weld pleidiau gwleidyddol yn eu mabwysiadu, er mwyn cefnogi pobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw. Darllenwch ein syniadau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.

Cysylltwch â’n Swyddog Polisi

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein polisi a dylanwadu ar waith, e-bostiwch: policy@tenovuscancercare.org.uk.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010