Skip to main content

Mae diagnosis canser yn arwain at gostau annisgwyl a all gynyddu’n gyflym

Gall colli incwm yn sydyn ac annisgwyl, ynghyd â chostau cudd, megis gwres, ymolchi ychwanegol a theithio i apwyntiadau, roi baich enfawr ar bobl.

I gyrraedd y pwynt hwn, rhaid i Gymru symud i ffwrdd o’r system optio i mewn bresennol ar gyfer cyngor ar fudd-daliadau lles -pan fo atgyfeiriad ar gais y person sydd wedi’u heffeithio gan ganser. Mae’r system bresennol yn dibynnu ar bobl sy’n gwybod yn fras beth sydd ei angen arnynt a chael gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n gwybod am lwybr budd-daliadau lles, ac sydd â’r amser i wneud atgyfeiriad.

Rydym am i Gymru ddechrau symud tuag at system optio allan lle mae’r atgyfeiriad yn rhan systematig o lwybr canser cyfannol.

Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru ac uwch arweinwyr y GIG i gymryd bod angen cyngor budd-daliadau ar bob claf canser ac ymrwymo i archwilio symud atgyfeiriadau o’r model ‘optio i mewn’ presennol i un sy’n optio allan, gan ddefnyddio’r llwybr canser fel model ar gyfer cyflyrau iechyd eraill.

Cwrdd â Bethan

Derbyniodd Bethan gefnogaeth gan Gynghorwyr Budd-daliadau Gofal Canser Tenovus ar ôl cael diagnosis o ganser y fron pan oedd hi ddim ond yn 26 oed.

Roedd Beth yn amharod i stopio gweithio, ond fe ddaeth pwynt lle bu’n rhaid iddi gofrestru’n sâl. Roedd ganddi hawl i dâl salwch statudol a Thaliad Annibyniaeth Personol (PIP)

“Mae Gofal Canser Tenovus wedi helpu’n enfawr trwy’r amserau mwyaf anodd.”

Darllenwch stori Bethan yma

Os ydych chi'n poeni am gost canser, ffoniwch ein Llinell Gymorth am ddim ar 0808 808 1010 neu cliciwch isod

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010