Skip to main content

Weithiau mae’n haws ysgrifennu pethau lawr na siarad ar y ffôn

P’un a ydych chi newydd dderbyn diagnosis, yn poeni am rywun annwyl, neu mae  gennych gwestiynau am ganser, triniaeth neu sgil-effeithiau, mae ein nyrsys canser profiadol yma i gynnig gwybodaeth, cymorth a chysur.

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n siŵr beth i’w ofyn- dywedwch wrthym beth sydd ar eich meddwl, a bydd ein nyrsys yn gwneud eu gorau glas i’ch helpu.

Mae ein gwasanaeth Gofyn i’r Nyrs yn eich galluogi i anfon eich cwestiynau atom arlein a chael ymateb gan ein tîm nyrsio'r diwrnod gwaith nesaf. Rhannwch gymaint o wybodaeth yr ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn ei rhannu. Bydd unrhyw fanylion rydych yn rhannu yn ein helpu i roi’r ateb mwyaf defnyddiol posibl i chi.

Mae Gofyn i’r Nyrs yn wasanaeth cyfrinachol. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i ymateb i’ch ymholiad ac ni fydd yn cael eu rhannu heb eich caniatâd, ac eithrio mewn rhai amgylchiadau penodol lle mae rhwymedigaeth gyfreithiol neu broffesiynol i wneud hynny.

Rydym yn aros i glywed gennych

A allwn ni adael neges llais? *
Mae'n bosibl y byddwn yn ffonio ar adeg nad yw'n gyfleus i chi. Os felly, hoffem adael neges llais i gydnabod eich cais i siarad am ein gwasanaethau
Ydych chi wedi defnyddio unrhyw un o wasanaethau Gofal Canser Tenovus o’r blaen?
Dywedwch wrthym sut y gallwn eich helpu. Os oes gennych chi unrhyw anghenion cyfathrebu y dylem ni fod yn ymwybodol ohonynt, nodwch nhw yma

Datganiad cyfrinachedd

Mae gwasanaeth Gofyn i'r Nyrs yn wasanaeth cyfrinachol.

Bydd ein tîm Llinell Gymorth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol (megis eich enw a’ch cyfeiriad) at ddibenion ymdrin â’ch ymholiad. Ni fyddant yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall heb eich caniatâd penodol.

Fodd bynnag, mae rhai amgylchiadau eithriadol lle gallwn drosglwyddo gwybodaeth bersonol am unigolyn, gan gynnwys er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith neu â chod ymddygiad proffesiynol ein tîm cymorth. Er enghraifft:

- Rydym yn credu bod yr unigolyn sy’n gwneud yr ymholiad mewn perygl difrifol o niwed, naill ai ganddo ef ei hun neu gan eraill.
- Rydym yn amau y gallai plentyn fod mewn perygl o niwed.
- Mae’r unigolyn yn peri risg ddifrifol o niwed i eraill.
- Mae’r unigolyn yn bygwth neu’n cam-drin ein staff.
- Mae’r unigolyn yn camddefnyddio’r gwasanaeth yn fwriadol mewn ffordd sy’n atal y gwasanaeth rhag cael ei ddarparu i eraill.
- Rydym yn derbyn gorchymyn llys sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni ddatgelu

Hoffem eich diweddaru am ein gwaith, ein gweithgareddau a ffyrdd o gymryd rhan. Sut hoffech chi glywed gennym?

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010