Weithiau mae’n haws ysgrifennu pethau lawr na thrafod ar y ffôn
Gall diagnosis o ganser ddod â chostau annisgwyl a phryderon ariannol. Efallai bod gennych gwestiynau am fudd-daliadau, grantiau, costau teithio, biliau dydd i ddydd neu newidiadau i’ch incwm.
Beth bynnag yw eich sefyllfa, mae ein cynghorwyr budd-daliadau cyfeillgar yma i wrando, cynnig cyngor a’ ch helpu i ddeall pa gymorth sydd ar gael i chi. Does dim angen i chi wybod yn union pa gymorth sydd ei angen arnoch chi. Rhannwch eich sefyllfa a’r pryderon gyda ni, a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth iawn ichi.
Mae ein gwasanaeth Gofyn i’r Cynghorydd yn caniatáu i chi anfon eich cwestiynau arlein. Bydd ein tîm Cyngor ar Fudd-daliadau yn ymateb erbyn y diwrnod gwaith nesaf. Rhannwch gymaint o wybodaeth ag sy’n gyfforddus i chi. Po fwyaf o wybodaeth y gallwch ei rhoi, y gorau y gallwn ni ddeall eich sefyllfa a chynnig cyngor sy’n addas i chi.
Mae Gofyn i’r Cynghorydd yn wasanaeth cyfrinachol. Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i ymateb i’ch ymholiad a ni fyddwn yn eu rhannu heb eich caniatâd, ac eithrio mewn amgylchiadau penodol lle mae rhwymedigaeth gyfreithiol neu broffesiynol i wneud hynny.