Partneriaethau corfforaethol sy'n helpu i sicrhau nad oes neb yn wynebu canser ar ei ben ei hun
Mae canser yn effeithio ar bob cymuned yng Nghymru. Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn derbyn diagnosis o ganser, ac mae'r angen am gymorth yn fwy nag erioed.
Drwy bartneru â Gofal Canser Tenovus, gall eich busnes wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser. Mae hefyd yn gyfle i ymgysylltu â'ch staff, cryfhau enw da eich sefydliad a dangos eich ymrwymiad i gyfrifoldeb cymdeithasol.
Mae sawl ffordd y gall eich busnes gefnogi Gofal Canser Tenovus. P'un a ydych chi am ddod â'ch gweithwyr ynghyd, codi arian hanfodol neu gyfrannu at ein gwasanaethau mewn ffordd sy'n gwneud gwahaniaeth parhaol, gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i'r cyfle cywir.