Lleoliad: Prif swyddfa neu o artref
Pa mor aml: Ein nod yw bod mor hyblyg â phosibl fel y gallwch wirfoddoli o amgylch eich ymrwymiadau eraill
Yn atebol i: Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Gofynion: Gradd mewn Cymraeg. Hyfedredd lefel C2
Beth sydd ynghlwm?
- Cyfieithu amrywiaeth o ddeunyddiau ysgrifenedig ffurfiol ac anffurfiol o'r Saesneg i'r Gymraeg ar draws ein hadrannau, o Farchnata a Chyfathrebu, Polisi a Mewnwelediad, Codi Arian, Gwirfoddoli a mwy.
- Darllen prawf ddogfennau i sicrhau arddull briodol, cywirdeb iaith, geirfa a gramadeg cywir.
Beth gewch chi o hyn?
- Mae hwn yn gyfle gwych i ennill profiad o fewn elusen sy'n gweithio dros Gymru, datblygu sgiliau presennol a dysgu rhai newydd.
- Amgylchedd cefnogol a chyfeillgar lle gallwch chi gael hwyl, mwynhau eich hun a chael boddhad o wybod eich bod chi'n helpu eraill
- Hyfforddiant llawn a bydd treuliau rhesymol yn cael eu had-dalu yn unol â pholisi Gofal Canser Tenovus
- Yn ogystal â hyn, gall y tîm gwirfoddoli eich cyfeirio at grwpiau eraill yr hoffech chi ymuno, gan gynnwys ein grwpiau codi arian megis, Ffrindiau Gofal Canser Tenovus, a'n corau Sing with Us
Pwy fyddai’n addas?
- Rhwyn efo gradd yn y Gymraeg, hyfedredd lefel C2
- Dibynadwyedd, gyda'r gallu i gwrdd â therfynau amser y cytunwyd
- Sgiliau cyfieithu profedig, (mae angen 2 gyfeirnod)
- Hyblygrwydd i wirfoddoli yn ôl yr angen
Sut ydw i’n ymgeisio?
Gwnewch gais ar ein gwefan neu ebostiwch volunteer@tenovuscancercare.org.uk neu ffoniwch 029 2076 8850 am fwy o wybodaeth.
Cynwysoldeb:
P'un a ydych chi'n wirfoddolwr, yn gefnogwr, neu'n aelod staff, rydyn ni am i bawb deimlo'n gartrefol yng Ngofal Canser Tenovus. Rydyn ni wedi ymrwymo i fwy o amrywiaeth ymhlith ein pobl er mwyn sicrhau bod gennym ystod eang o brofiadau, sgiliau a safbwyntiau sy'n adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethwn.
Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod Gofal Canser Tenovus yn lle teg a chyfiawn i wirfoddolwyr. Ymdrechwn i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg, waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhywedd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd, mamolaeth, hil (sy'n cynnwys lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig neu genedlaethol), cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, neu gred, neu oherwydd bod rhywun yn briod neu mewn partneriaeth sifil.