Dewch â’ch pobl ynghyd, cefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser a gwneud gwahaniaeth ledled Cymru
Mae dewis Elusen y Flwyddyn yn ffordd wych o roi achos cyffredin i’ch staff ddod ynghyd i’w gefnogi. Mae’n creu cyfleoedd i gymryd rhan, rhoi cynnig ar bethau newydd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol gyda’i gilydd.
Yn Gofal Canser Tenovus, rydyn ni’n gweithio gyda busnesau o bob maint ac ar draws pob sector. Byddwn ni’n dod i adnabod eich sefydliad ac yn eich helpu i wneud y gorau o’ch partneriaeth, gyda chyfleoedd sy’n addas i’ch staff ac i’r hyn rydych chi am ei gyflawni.