Skip to main content

Cefnogwch bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser a chreu cyfleoedd ystyrlon i’ch busnes

Drwy noddi un o’n digwyddiadau neu ein gwasanaethau arbenigol, gall eich busnes godi ei broffil a’n helpu i gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser ledled Cymru.

Pam noddi Gofal Canser Tenovus?

Gall canser effeithio ar unrhyw un. Mae ein gwaith yn helpu pobl ledled Cymru i gael y cymorth ymarferol, emosiynol ac ariannol sydd ei angen arnyn nhw yn dilyn diagnosis o ganser.

Gall eich nawdd ein helpu i barhau â’r gwaith hwn, gan roi cyfle i’ch busnes:

- Codi ei broffil a chryfhau ei frand
- Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd
- Creu cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus a marchnata
- Cefnogi maes penodol o’n gwaith sy’n cyd-fynd â gwerthoedd eich sefydliad
- Dangos eich ymrwymiad i gefnogi cymunedau ledled Cymru

Pecyn noddi wedi’i deilwra i’ch busnes

Byddwn ni’n gweithio gyda chi i ddod o hyd i gyfle noddi sy’n addas i’ch sefydliad, eich cyllideb a’ch amcanion. P’un a ydych chi am gefnogi eich cymuned leol, ymgysylltu â’ch staff, codi proffil eich brand neu gysylltu eich busnes â maes penodol o’n gwaith, byddwn ni’n eich helpu i archwilio’r posibiliadau.

Dewch i drafod cyfleoedd noddi

Byddai ein tîm Partneriaethau Corfforaethol wrth eu bodd yn clywed gennych chi a thrafod sut gallwn ni gydweithio.

Cysylltwch â ni heddiw drwy anfon e-bost at corporate@tenovuscancercare.org.uk

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010