Dewch â’ch pobl ynghyd a gwneud gwahaniaeth i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser
Mae sawl ffordd y gall eich staff gefnogi Gofal Canser Tenovus, boed drwy gymryd rhan mewn digwyddiad her, codi arian yn y gweithle, rhoi drwy’r gyflogres neu wirfoddoli eu hamser.
Mae cymryd rhan yn ffordd wych o ddod â chydweithwyr ynghyd, cryfhau ysbryd tîm a chefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser ledled Cymru. Does dim angen partneriaeth gorfforaethol ffurfiol i wneud gwahaniaeth.