Canser yr ysgyfaint sy’n achosi’r nifer fwyaf o farwolaethau yng Nghymru - yn fwy na chanser y fron a chanser y coluddyn gyda’i gilydd.
Mae’r cyfraddau goroesi blwyddyn (41%) a phum mlynedd (18.2%) ychydig y tu ôl i rai’r Alban a Lloegr.
Mae’r manteision clinigol ac ariannol sgrinio yn llethol – gyda rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint wedi’i thargedu yng Nghymru â’r potensial i achub cannoedd o fywydau ledled y wlad.