Skip to main content

Mae gan ganserau’r ysgyfaint, y pancreas, yr afu, yr ymennydd, yr oesoffagws a’r stumog gyfradd oroesi pum mlynedd o lai nag 20 y cant ar gyfartaledd.

Ni all Cymru fforddio - yn foesol nac yn ariannol - esgeuluso’r canserau llai goroesadwy a’u heffaith ar ein cymunedau.

Bydd y camau gweithredu sydd eu hangen i ysgogi gwelliannau a sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer canserau llai goroesadwy yn cael effeithiau cadarnhaol ar weddill y GIG. Byddai triniaethau yn llai costus, yn cael eu darparu dros gyfnod byrrach, yn aml yn y gymuned ac yn debygol o arwain at lai o amser adsefydlu.  

Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru ac uwch arweinwyr i gydnabod y chew chanser llai goroesadwy, eu nodweddion unigryw, eu heffaith ar Gymru a chynllunio yn unol â hynny.

Cwrdd â Heulwen 

"Efallai bod canser wedi rheoli fy nghorff ond nid oedd am reoli fy meddwl."

Ymgysylltu â'r Tasglu Canserau Llai Goroesadwy

Mae'r Tasglu Canserau Llai Goroesadwy yn cynrychioli'r canserau llai goroesadwy. Mae elusennau sy'n cefnogi cleifion sydd â'r canserau hyn wedi ymuno â'i gilydd i wella canlyniadau a phrofiadau i bawb sydd wedi cael diagnosis o ganser llai goroesadwy ledled y DU.

Rhannwch eich stori a helpwch ni i ymgyrchu dros newid

Hoffem glywed gennych chi gan y gall eich stori ein helpu i gyrraedd mwy o bobl trwy dystiolaeth bersonol. Drwy ddod yn wirfoddolwr cyfryngau a rhannu eich stori canser gyda ni, gallwch ein helpu i godi ymwybyddiaeth, ysgogi newid, a helpu eraill i deimlo'n llai unig.

Cysylltwch â ni ar stories@tenovuscancercare.org.uk a bydd ein tîm yn cysylltu â chi i drefnu'r ffordd orau o rannu eich stori.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010