Skip to main content

Mae Arian a Mwy Cymru yn wasanaeth iechyd a lles ariannol newydd, wedi’i ariannu gan Cymorth Canser Macmillan a’i ddarparu gan Gofal Canser Tenovus mewn partneriaeth â sefydliadau ledled Cymru.

Mae'r gwasanaeth yn helpu pobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser i gael mynediad at y budd-daliadau lles, canllawiau ariannol a chymorth ehangach sydd eu hangen arnynt, gan sicrhau eu bod yn derbyn yr help cywir ar yr adeg iawn.

Rydym wedi ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin am y gwasanaeth, gan gynnwys pwy sy'n gallu cael mynediad at gymorth, pa gymorth sydd ar gael a beth sy'n digwydd ar ôl i chi gysylltu â ni. Os na allwch ddod o hyd i'r ateb rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni – byddwn yn fwy na hapus i helpu.

Ar gyfer gofalwyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol

Gellir cyrchu'r gwasanaeth drwy ein ffurflen atgyfeirio sydd ar gael ar ein gwefan, trwy'r daflen hon a thrwy ein rhif Llinell Gymorth 0808 8081010.

Mae'r ffurflen atgyfeirio yn gofyn am fanylion y person i'w atgyfeirio ac am rywfaint o wybodaeth am y pryderon iechyd a'r driniaeth a dderbyniwyd, os o gwbl, yn ogystal ag unrhyw ddogfennau cefnogol sydd gennych. Anfonwch y ffurflen yn ôl i’n cyfeiriad e-bost refertous@tenovuscancercare.org.uk. 

Bydd pob atgyfeiriad a chyswllt arall yn cael ei gydnabod drwy e-bost ac yn cael ei drin cyn gynted â phosibl.

Mae gan Gofal Canser Tenovus hanes o ddarparu cyngor a gwasanaethau ehangach i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan ganser. Mae ein gwasanaeth Arian a Mwy Cymru wedi'i achredu gyda'r Marc Ansawdd Cyngor sy'n cydnabod safon uchel ein gwaith. Rydym yn darparu dull cyfannol i bob cleient gan sicrhau bod yr holl anghenion yn cael eu diwallu hyd yn oed pan fydd angen atgyfeiriadau at sefydliadau allanol.

Bydd pob atgyfeiriad yn cyrraedd Gofal Canser Tenovus yn uniongyrchol lle bydd pob person yn derbyn asesiad cychwynnol (brysbennu) gan gynghorydd arbenigol. Mae hyn yn ein galluogi i nodi ystod lawn eu hanghenion a darparu gwybodaeth, arweiniad a chymorth ar unwaith. Gellir rhoi rhywfaint o gyngor ar y cam hwn neu gleientiaid sy'n cael eu grymuso i ddefnyddio pecynnau adnoddau i gael mynediad at gymorth. Bydd cyngor arall, mwy cymhleth yn cael ei ddarparu naill ai gan Gofal Canser Tenovus neu gan un o'n partneriaid cyflenwi ledled Cymru. Byddwn yn cysylltu â'r cleientiaid sy’n cael eu hatgyfeirio atom cyn gynted â phosibl i gynnal asesiad cychwynnol. Wedyn byddwn ni’n darparu'r cymorth orau ar gyfer anghenion yr unigolyn.

Ar gyfer unigolion

Mae Arian a Mwy Cymru yn ffordd i chi ddeall a chael mynediad at fudd-daliadau lles, cymorth ymarferol a chymorth arall y gallai fod gennych hawl iddo. Yn dibynnu ar eich anghenion, gallai hyn amrywio o roi pecyn o gyngor a gwybodaeth i chi, hyd at gymorth gyda llenwi ffurflenni, gwneud ceisiadau am fudd-daliadau a helpu i sicrhau hawliadau.

Rydyn ni yma i helpu. Gallwch ffonio Llinell Gymorth Gofal Canser Tenovus ar 0808 808 1010 neu nodi eich manylion ar y ffurflen yma.

Byddwch yn derbyn galwad gan un o'n cynghorwyr a fydd yn trafod eich iechyd a'ch amgylchiadau presennol i allu nodi'r ffordd orau y gallwn eich helpu. Yn dilyn hyn, byddwn yn eich cynghori o'r ffordd orau o weithredu.

Y mwyaf o wybodaeth rydych chi'n hapus i'w rhoi i'n cynghorwyr profiadol am eich amgylchiadau, y mwyaf o fanylion y gallwn eu rhoi i chi am y taliadau, y cymorth neu'r budd-daliadau y gallech gael mynediad atynt.

Byddwn yn trafod unrhyw bryderon neu heriau penodol rydych chi'n eu hwynebu ac yn helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddiwallu eich anghenion – weithiau mae hynny trwy grant neu daliad untro, ac weithiau trwy wirio nad ydych chi'n colli allan ar dariffau arbennig, budd-daliadau lles neu ffynonellau eraill o help.

Mae gwasanaethau Arian a Mwy ar gael ledled y DU a gall unrhyw un gael mynediad i'w un lleol; Macmillan Money & More Service - National - Cancer Care Map.

Os ydych yn barod i ofyn am gymorth, neu i atgyfeirio rhywun a allai elwa ar y gwasanaeth, llenwch ein ffurflen arlein

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010