Telerau ac Amodau Raffl
Cliciwch isod am delerau ac amodau raffl
Cymryd rhan
Mae cymryd rhan yn y Raffl Grand yn costio £1 y tocyn ac mae’n agored i holl drigolion prif diroedd Prydain Fawr dros 18 oed (nid yw hyn yn cynnwys Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel). Ni ellir gwerthu tocynnau ar y stryd nac o ddrws i ddrws ac ni ellir eu gwerthu i/gan berson o dan 18 oed.
Bydd yr arian a godwyd gan Raffl Grand yn cefnogi gwaith Gofal Canser Tenovus wrth ddarparu cyngor ymarferol, cymorth emosiynol a thriniaeth i gleifion canser a’u hanwyliaid. Dysgwch fwy am sut rydym yn helpu, yma.
Gellir talu am gymryd rhan yn y Raffl Grand gyda cherdyn credyd neu ddebyd, siec, archeb bost neu arian parod. Yn anffodus ni ellir derbyn CAF neu dalebau elusen eraill fel taliad am docynnau.
Bydd pob tocyn yn cael ei gynnwys yn y raffl cyn gynted ag y bydd y tocyn a’r taliad cyfan wedi’u derbyn.
Y dyddiad cau ar gyfer prynu tocynnau Raffl Grand yw 03/12/025 a'r dyddiad cau ar gyfer derbyn y tocynnau a thalu yw 03/12/205. Ni fydd tocynnau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu cynnwys yn y raffl, a bydd taliad yn cael ei drin fel rhodd i’n helpu i ariannu ein gwaith.
Cyfrifoldeb
Nid yw’r hyrwyddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os caiff y dull talu a ddewiswyd ei ganslo ar gam.
Ni chymerir unrhyw gyfrifoldeb am docynnau a thaliadau a gaiff eu colli, eu hoedi neu eu difrodi yn y post ac ni fydd nodyn o dystiolaeth postio yn cael ei dderbyn fel tystiolaeth o'i dderbyn.
Rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr nad yw gamblo yn cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell trosedd ac anhrefn e.e. gwyngalchu arian. Rydym hefyd wedi ymrwymo i amddiffyn pobl a phlant sy'n agored i niwed.
Ni ddylid gwerthu tocynnau i unrhyw un o dan 18 oed. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gofynnwch am gerdyn adnabod/ID bob amser.
Uchafswm nifer y tocynnau y gellir eu gwerthu i un person yw 50.
Tynnu’r Raffl
Bydd yr holl docynnau a dderbynnir ac y talwyd amdanynt yn llawn cyn y dyddiad cau yn cael eu cynnwys yn y raffl.
Bydd y raffl yn cael ei thynnu ar 03/12/2025 , Priskilly Forest Golf Club. a bydd tocynnau'n cael eu tynnu'n electronig gan ddefnyddio generadur haprifau.
- Bydd rhif y tocyn cyntaf a dynnir yn derbyn y wobr gyntaf o £200.
- Bydd yr ail docyn a dynnir yn derbyn yr ail wobr o Sap Day for 2.
- Bydd y trydydd tocyn a dynnir yn derbyn y drydedd wobr o Stena Line Trip for two adults and two children.
- Bydd y pedwerydd tocyn a dynnir yn derbyn dau clustog gwlan Tregwynt
Os na ellir cysylltu â'r enillydd dros y ffôn, bydd yn cael ei hysbysu'n ysgrifenedig gyda thaliad drwy siec.
Bydd rhestr o’r rhifau buddugol ar gael ar wefan Gofal Canser Tenovus neu drwy ffonio 029 2076 8850.
Mae canlyniad y Raffl Grand yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebiaeth.
Ni chaniateir i unrhyw un dan 18 oed gymryd rhan – noder fod gamblo dan oed yn drosedd. Ni thelir gwobrau i unrhyw un dan 18 oed.
Hunan Waharddiad
Er bod y rhan fwyaf o bobl yn gamblo yn gyfrifol, rydym yn cydnabod y gall gamblo fod yn broblem i rai. Os ydych chi neu aelod o'r teulu yn teimlo eich bod yn cael problemau gyda gamblo, gallwch ofyn am gyngor a chefnogaeth gan gwnselwyr hyfforddedig drwy Gambleaware. Ffoniwch y llinell rhadffôn ar 0808 8020 133 neu ymweld â’u gwefan gambleaware.co.uk.
I gefnogi gamblwyr problemus, rydym yn gweithredu polisi hunan-wahardd, sy'n golygu na fyddwch yn derbyn unrhyw wybodaeth am ein Rafflau Mawr.
I gael eich cynnwys ar ein rhaglen hunan-wahardd, cysylltwch â'n tîm gofal cefnogwyr dros y ffôn ar 029 2076 8850 neu drwy e-bost yn supportercare@tenovuscancercare.org.uk.
Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010