Skip to main content

 Mae Gofal Canser Tenovus yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru a’r GIG i weithredu’n llawn adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, 'Heb Lais: Taith menywod drwy canser gynaecolegol'. 

Roedd llawer o’r menywod a rannodd eu profiad gyda’r Pwyllgor yn credu nad oedd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwrando ar eu pryderon nac yn cymryd eu symptomau o ddifrif.

Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru ac uwch arweinwyr i ailystyried eithriad canser gynaecolegol yn y Cynllun Iechyd Menywod a chynnwys canser gynaecolegol fel rhan o adolygiad yn seiliedig ar y Cynllun yn cael ei gyhoeddi fel dogfen fyw ac ailadroddus.

Cwrdd â Claire O’Shea

Teyrnged i Claire 

 Rydym wedi torri ein calonnau yn sgil marwolaeth ein ffrind ac ymgyrchydd canser Claire O’Shea a fu farw o ganser gynaecolegol yn 42 oed ar 12 Mai 2025.

Ar ôl derbyn ei diagnosis canser marwol yn dilyn profiad gwael, ymroddodd Claire at godi ymwybyddiaeth a sicrhau na fyddai’n rhaid i fenywod eraill yng Nghymru fynd trwy’r un peth.

Ysbrydolodd ei chryfder, ei chynhesrwydd a’i phenderfyniad gannoedd o fenywod i rannu eu profiadau a helpodd i yrru newid gwirioneddol yn y ffordd y mae canserau gynaecolegol yn cael eu deall, trafod a datrys ledled Cymru.

Mae marwolaeth gynamserol Claire yn enghraifft bwerus o pam mae Ymgyrch Claire mor bwysig.

Ymgysylltu ag Ymgyrch Claire

Rhannwch eich stori a helpwch ni i ymgyrchu dros newid

Hoffem glywed gennych chi gan y gall eich stori ein helpu i gyrraedd mwy o bobl trwy dystiolaeth bersonol. Drwy ddod yn wirfoddolwr cyfryngau a rhannu eich stori canser gyda ni, gallwch ein helpu i godi ymwybyddiaeth, ysgogi newid, a helpu eraill i deimlo'n llai unig.

Cysylltwch â ni ar stories@tenovuscancercare.org.uk a bydd ein tîm yn cysylltu â chi i drefnu'r ffordd orau o rannu eich stori.

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010