Beth yw Gwirfoddolwr Didoli, Steilio a Gwerthu Ar-lein?
A fyddech chi'n mwynhau bod rhan o'n tîm warws – yn didoli, yn dewis, yn steilio ac yn creu rhestrau ar-lein i droi nwyddau a roddwyd yn werthiannau gwerthfawr?
Os gennych chi lygad am fanylion, yn mwynhau arddangos cynhyrchion at eu gorau, ac yn awyddus i ymchwilio eu gwerth priodol, yna gall hon fod y rôl wirfoddoli berffaith i chi.
Gan weithio o'n warws yn Rumney, Caerdydd, mae'r rôl wirfoddoli eBay hon yn ddelfrydol os ydych yn mwynhau tynnu lluniau o eitemau a'u rhestru ar-lein.
Lleoliad: Warws, Rumney, Cardiff CF3 2ES
Pa mor aml: Hanner neu holl ddydd ar ddydd Llun, dydd Mercher neu ddydd Gwener
Yn atebol i: Martyn White
Gofynion: Isafswm oedran 18+
Beth sydd ynghlwm?
- Dewis a steilio dillad ac eitemau vintage i’w gwerthu, yn bennaf ar eBay
- Ysgrifennu disgrifiadau a thynnu lluniau o eitemau i’w gwerthu ar-lein
- Golygu a rhestru delweddau stoc yn ôl canllawiau’r brand
- Ymchwilio’r eitemau ar-lein i sicrhau rhestrai gorau posibl
- Gweithio’n agos gyda’r tîm masnachu ar-lein
Beth gewch chi o hyn?
- Y cyfle i ddefnyddio eich creadigrwydd a sgiliau cyfrifiadur
- Y boddhad o sicrhau gwerthiant hanfodol i’r elusen
- Y cyfle i weithio gyda phobl o’r un anian fel rhan o dîm clos
Buddion Ychwanegol
- Cewch eich gwerthfawrogi o'r diwrnod cyntaf am fod yn rhan o'n sefydliad a gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl
- Cyflwyniad personol
- Hyfforddiant llawn ar ddefnyddio platfform eBay
- Y cyfle i weithio yn rhan o dîm bach cydlynol gyda phobl o'r un anian â chi i
- Cwrdd â phobl newydd
- Ymgeisio am swyddi gwag mewnol
- Dysgu sgiliau newydd neu loywi hen rai a gwella eich CV
- Ennill hyder a hunan-barch
- Bydd treuliau rhesymol yn cael eu had-dalu yn unol â pholisi Gofal Canser Tenovus
- Cinio wedi ei dalu os weithiwch mwy na 4 awr*
- 20% oddi ar nwyddau ail-law yn y siop rydych chi'n gweithio ynddi
- Diodydd a bisgedi am ddim
- Mynediad at gyfleoedd hyfforddi
- Amgylchedd cefnogol a chyfeillgar lle gallwch chi gael hwyl, mwynhau eich hun a chael boddhad o wybod eich bod chi'n helpu eraill
- Yn ogystal â hyn, gall y tîm gwirfoddoli eich cyfeirio at grwpiau eraill yr hoffech chi ymuno, gan gynnwys ein grwpiau codi arian megis, Ffrindiau Gofal Canser Tenovus, a'n corau Sing with Us
Pwy fyddai’n addas?
Oes gennych chi lygad am eitem y gellid ei hail-lunio'n llwyddiannus i'w hailwerthu?
Ydych chi'n mwynhau gweld eitemau gwerthfawr ac arbennig yn cael cartref newydd?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn llwyfannau gwerthu ar-lein?
Byddai'r rôl hon yn addas ar gyfer person rhagweithiol, sy'n awyddus i ddefnyddio ei sgiliau cyfrifiadurol, yn mwynhau amrywiaeth o dasgau ac yn bod rhan o dîm sy'n tyfu.
Sut ydw i’n ymgeisio?
Gwnewch gais ar ein gwefan neu ebostiwch volunteer@tenovuscancercare.org.uk neu ffoniwch 029 2076 8850 am fwy o wybodaeth.
Cynwysoldeb:
P'un a ydych chi'n wirfoddolwr, yn gefnogwr, neu'n aelod staff, rydyn ni am i bawb deimlo'n gartrefol yng Ngofal Canser Tenovus. Rydyn ni wedi ymrwymo i fwy o amrywiaeth ymhlith ein pobl er mwyn sicrhau bod gennym ystod eang o brofiadau, sgiliau a safbwyntiau sy'n adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethwn.
Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod Gofal Canser Tenovus yn lle teg a chyfiawn i wirfoddolwyr. Ymdrechwn i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg, waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhywedd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd, mamolaeth, hil (sy'n cynnwys lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig neu genedlaethol), cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, neu gred, neu oherwydd bod rhywun yn briod neu mewn partneriaeth sifil.