Beth yw Gwirfoddolwr Trefni a Chymdeithasu?
A ydych chi'n caru trefni yng nghwmni eraill? Fyddech chi’n mwynhau rôl tu ôl i'r llenni, yn trefni trwy stoc roddion at ei’n warws yn Rumney?
Yn ein warws yn Rumney, Caerdydd, mae'r rôl wirfoddoli gymdeithasol ac ymarferol hon yn berffaith i unrhyw un sy'n mwynhau didoli a threfnu.
Lleoliad: Springmeadow Industial Park, Rumney CF3 2ES
Pa mor aml: Bore Dydd Llun 10am- 2pm
Yn atebol i: Rheolwr Warws
Gofynion: 18+, Mae angen 2 gyfeirnod
Beth sydd ynghlwm?
- Trefni trwy ein stoc roddion a ddewis eitemau i’w gwerthu yn barod i’w cludo i’n siopau.
Beth gewch chi o hyn?
- Creu ffrindiau newydd a mwynhau sgwrs wrth helpu trefni stoc addas i ailwerthu
- Cael boddhad o roi trefn ar bethau!
- Fydd hyfforddiant llawn yn cael eu darparu
Buddion Ychwanegol
- Byddwch chi'n teimlo ein gwerthfawrogiad o'r diwrnod cyntaf am fod yn rhan o'n sefydliad a gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl
- Anwythais personol i ofal Canser Tenovus
- Y cyfle i gwrdd â phobol Newydd
- Amgylchedd cefnogol a chyfeillgar lle gallwch chi gael hwyl, mwynhau eich hun a chael boddhad o wybod eich bod chi'n helpu eraill
- Bydd treuliau rhesymol yn cael eu had-dalu yn unol â pholisi Gofal Canser Tenovus
- Cinio wedi ei dalu os weithiwch mwy na 4 awr yn unol â'n polisi treuliau
- Diodydd a bisgedi am ddim
- Mynediad at gyfleoedd hyfforddi
- Yn ogystal â hyn, gall y tîm gwirfoddoli eich cyfeirio at grwpiau eraill yr hoffech chi ymuno, gan gynnwys ein grwpiau codi arian megis, Ffrindiau Gofal Canser Tenovus, a'n corau Sing with Us
Pwy fyddai’n addas?
Unigolion neu grŵp o ffrindiau/ teulu nad oes ots ganddyn nhw fod y tu ôl i'r llenni, a all drefnu a blaenoriaethu stoc a roddir i'w hailwerthu.
Lle parcio ceir ar gael ar y safle neu mae bysiau 44/ 1A/ 2A/ 101 a 54 yn stopio gerllaw.
Sut ydw i’n ymgeisio?
Gwnewch gais ar ein gwefan neu ebostiwch volunteer@tenovuscancercare.org.uk neu ffoniwch 029 2076 8850 am fwy o wybodaeth.
Cynwysoldeb:
P'un a ydych chi'n wirfoddolwr, yn gefnogwr, neu'n aelod staff, rydyn ni am i bawb deimlo'n gartrefol yng Ngofal Canser Tenovus. Rydyn ni wedi ymrwymo i fwy o amrywiaeth ymhlith ein pobl er mwyn sicrhau bod gennym ystod eang o brofiadau, sgiliau a safbwyntiau sy'n adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethwn.
Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod Gofal Canser Tenovus yn lle teg a chyfiawn i wirfoddolwyr. Ymdrechwn i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg, waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhywedd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd, mamolaeth, hil (sy'n cynnwys lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig neu genedlaethol), cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, neu gred, neu oherwydd bod rhywun yn briod neu mewn partneriaeth sifil.