Beth yw Gwirfoddolwr Troi Teganau i Lawenydd?
A allech chi roi ail gyfle i deganau a rhoddwyd?
Fyddech chi’n mwynhau trefni a dewis teganau ail-law i ailwerthu yn ei’n siopau
A allwch chi ddenu sylw ein siopwyr iau trwy greu arddangosfeydd teganau deniadol?
Yn ein siop yn Llangollen, mae'r rôl wirfoddol hon yn ddelfrydol i unrhyw un sy'n mwynhau dod o hyd i gartrefi newydd ar gyfer teganau a fu'n eiddo.
Lleoliad: 23 Castle Street, Llangollen, LL20 8NY
Pa mor aml: Ein nod yw bod mor hyblyg â phosibl fel y gallwch wirfoddoli o amgylch eich ymrwymiadau eraill, ond yn ddelfrydol ychydig oriau'r wythnos
Yn atebol i: Rheolwr Siop
Gofynion: Isafswm oedran 16, (oni bai DOE/Bagloriaeth Cymru).
Mae angen 2 gyfeirnod
Beth sydd ynghlwm?
- Didoli trwy stoc a dewis teganau addas i’w werthu
- Gwirio bod gan bob tegan a ddewisir i'w werthu'r nod barcud CE ac yn ddiogel ac yn lân
- Gweithio efo rheolwr y siop i ddeall beth sydd yn gwerthu yn dda
Beth gewch chi o hyn?
- Y cyfle i droi tegan a roddwyd yn drysor newydd i blentyn
- Y cyfle i ddod i adnabod a sgwrsio ag aelodau eraill o staff wrth i chi ddidoli'r teganau
- Y cyfle i ddewis o deganau i helpu gwerthiant y siop.
Buddion Ychwanegol
- Cewch eich gwerthfawrogi o'r diwrnod cyntaf am fod yn rhan o'n sefydliad a gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl
- Cyflwyniad personol i’r siop
- Y cyfle i weithio yn rhan o dîm bach cydlynol gyda phobl o'r un anian â chi i:
- Ddod â syniadau newydd i’r siop
- Cwrdd â phobl newydd
- Ymgeisio am swyddi gwag mewnol
- Dysgu sgiliau newydd neu loywi hen rai a gwella eich CV
- Ennill hyder a hunan-barch
- Bydd treuliau rhesymol yn cael eu had-dalu yn unol â pholisi Gofal Canser Tenovus
- Cinio wedi ei dalu os weithiwch mwy na 4 awr yn unol â'n polisi treuliau
- 20% oddi ar nwyddau ail-law yn y siop rydych chi'n gweithio ynddi
- Diodydd a bisgedi am ddim
- Mynediad at gyfleoedd hyfforddi
- Amgylchedd cefnogol a chyfeillgar lle gallwch chi gael hwyl, mwynhau eich hun a chael boddhad o wybod eich bod chi'n helpu eraill
- Yn ogystal â hyn, gall y tîm gwirfoddoli eich cyfeirio at grwpiau eraill yr hoffech chi ymuno, gan gynnwys ein grwpiau codi arian megis, Ffrindiau Gofal Canser Tenovus, a'n corau ‘Sing with Us’
Pwy fyddai’n addas?
Efallai plentyn wrth galon! Sy’n mwynhau bod o gwmpas teganau ac yn gallu trefnu a’u blaenoriaethu i’w gwerthu.
Sut ydw i’n ymgeisio?
Gwnewch gais ar ein gwefan neu ebostiwch volunteer@tenovuscancercare.org.uk neu ffoniwch 029 2076 8850 am fwy o wybodaeth.
Cynwysoldeb:
P'un a ydych chi'n wirfoddolwr, yn gefnogwr, neu'n aelod staff, rydyn ni am i bawb deimlo'n gartrefol yng Ngofal Canser Tenovus. Rydyn ni wedi ymrwymo i fwy o amrywiaeth ymhlith ein pobl er mwyn sicrhau bod gennym ystod eang o brofiadau, sgiliau a safbwyntiau sy'n adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethwn.
Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod Gofal Canser Tenovus yn lle teg a chyfiawn i wirfoddolwyr. Ymdrechwn i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg, waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhywedd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd, mamolaeth, hil (sy'n cynnwys lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig neu genedlaethol), cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, neu gred, neu oherwydd bod rhywun yn briod neu mewn partneriaeth sifil.