Skip to main content
Retail Volunteer 18 Medi 2026

Gwirfoddolwr Nwyddau ar Glud

Beth yw Gwirfoddolwr Newyddau ar Glud

Ydych chi’n hoffi gyrru ac edrych am gyfle i ddefnyddio eich sgiliau gyrru?

A fyddech chi'n mwynhau bod yn rhan o dîm manwerthu bach i gadw llif stoc yn siopau Tenovus yn eich ardal leol?

Yn cwmpasu Mold, Flint, Buckley a Nantwich, mae’r rôl wirfoddoli hon yn addas i bobl sydd yn mwynhau fod ar y ffordd ac yn cefnogi ei’u siop leol Gofal Canser Tenovus.

Lleoliad: Mold, Flint, Buckley a Nantwich

Pa mor aml: Ein nod yw bod mor hyblyg â phosibl fel y gallwch wirfoddoli o amgylch eich ymrwymiadau eraill

Yn atebol i: Rheolwr Siop

Gofynion: Isafswm oedran 18, mae angen 2 gyfeirnod, Trwydded Yrru, Trafnidiaeth eich hun ac Yswiriant Priodol.

Beth sydd ynghlwm?

  • Symud stoc rhwng siopau yn yr ardal
  • Mynd a stoc a roddwyd i siopau
  • Dosbarthu bagiau rhoddion i gartrefi mewn ardaloedd a chasglu'r bagiau llawn ar ddiwrnod y cytunwyd arno
  • Casglu rhoddion mewn busnesau lle mae ein 'Gorsafoedd Rhoddion' wedi'u lleoli

Beth gewch chi o hyn?

  • Y cyfle i fod allan ac o gwmpas gyda'ch olwynion! Ond hefyd, i fod yn rhan o'ch tîm manwerthu Tenovus lleol

Buddion Ychwanegol

  • Cewch eich gwerthfawrogi o'r diwrnod cyntaf am fod yn rhan o'n sefydliad a gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl
  • Cyflwyniad personol i’r siop
  • Y cyfle i weithio yn rhan o dîm bach cydlynol gyda phobl o'r un anian â chi i:
  • Ddod â syniadau newydd i’r siop
  • Cwrdd â phobl newydd
  • Ymgeisio am swyddi gwag mewnol
  • Dysgu sgiliau newydd neu loywi hen rai a gwella eich CV
  • Ennill hyder a hunan-barch
  • Bydd treuliau rhesymol yn cael eu had-dalu yn unol â pholisi Gofal Canser Tenovus
  • Cinio wedi ei dalu os weithiwch mwy na 4 awr yn unol â'n polisi treuliau
  • 20% oddi ar nwyddau ail-law yn y siop rydych chi'n gweithio ynddi
  • Diodydd a bisgedi am ddim
  • Mynediad at gyfleoedd hyfforddi
  • Amgylchedd cefnogol a chyfeillgar lle gallwch chi gael hwyl, mwynhau eich hun a chael boddhad o wybod eich bod chi'n helpu eraill
  • Yn ogystal â hyn, gall y tîm gwirfoddoli eich cyfeirio at grwpiau eraill yr hoffech chi ymuno, gan gynnwys ein grwpiau codi arian megis, Ffrindiau Gofal Canser Tenovus, a'n corau ‘Sing with Us’

Pwy fyddai’n addas?

Oes gennych chi gar neu fan o faint dda, yn mwynhau gyrru a rhyngweithio â phobl?

Nodyn: Bydd angen i chi wirio gyda'ch cwmni yswiriant car eich bod wedi'ch yswirio i ddefnyddio'ch car ar gyfer gwirfoddoli cyn dechrau gyda ni (gellir trefnu hyn fel arfer heb unrhyw gost ychwanegol), a bydd angen gwirio'ch trwydded yrru ac yswiriant busnes cyn y gallwch ddechrau.

Sut ydw i’n ymgeisio?

Gwnewch gais ar ein gwefan neu ebostiwch volunteer@tenovuscancercare.org.uk neu ffoniwch 029 2076 8850 am fwy o wybodaeth.

Cynwysoldeb:

P'un a ydych chi'n wirfoddolwr, yn gefnogwr, neu'n aelod staff, rydyn ni am i bawb deimlo'n gartrefol yng Ngofal Canser Tenovus. Rydyn ni wedi ymrwymo i fwy o amrywiaeth ymhlith ein pobl er mwyn sicrhau bod gennym ystod eang o brofiadau, sgiliau a safbwyntiau sy'n adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethwn.
Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod Gofal Canser Tenovus yn lle teg a chyfiawn i wirfoddolwyr. Ymdrechwn i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg, waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhywedd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd, mamolaeth, hil (sy'n cynnwys lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig neu genedlaethol), cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, neu gred, neu oherwydd bod rhywun yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Ai chi rydyn ni'n chwilio amdano?

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010