Skip to main content
Retail Volunteer 18 Medi 2026

Gwirfoddolwr Ymchwil Prin neu Replica

Beth yw Gwirfoddolwr prin neu replica?

Oes gennych chi angerdd am nwyddau ail-law a llygad am ddarganfyddiadau prin? A allwch chi ddefnyddio eich sgiliau ymchwil i sicrhau bod rhoddion diddorol yn cael eu nodi a'u prisio'n gywir?

Mae'r rôl wirfoddol hon yn berffaith os ydych chi'n mwynhau ymchwilio nwyddau ail-law i'w hailwerthu.

Pa mor aml: Ein nod yw bod mor hyblyg â phosibl fel y gallwch wirfoddoli o amgylch eich ymrwymiadau eraill, ond yn ddelfrydol ychydig oriau'r wythnos

Yn atebol i: Rheolwr Siop

Gofynion: Isafswm oedran 16, (oni bai DOE/Bagloriaeth Cymru).
Mae angen 2 gyfeirnod

Beth sydd ynghlwm?

  • Archwilio eitemau a roddwyd (e.e. dillad, ategolion, eitemau casglid, gweithiau celf, electroneg) i asesu eu dilysrwydd
  • Ymchwilio frandiau, tarddiad a phrisiau'r farchnad gan ddefnyddio ffynonellau ar-lein, e.e. eBay
  • Gosod prisiau cywir ar eitemau yn unol â thueddiadau cyfredol y farchnad nwyddau ail-law
  • Nodi eitemau prin, gwerth uchel neu arbenigol i'w gwerthu ar wahân neu i'w cyfeirio at lefel uwch
  • Gweithio'n agos gyda thîm y siop i wneud y gorau o gylchdroi a dangos stoc

Beth gewch chi o hyn?

  • Y cyfle i ddefnyddio eich sgiliau ditectif i ddarganfod eitemau prin a'u gwahaniaethu oddi wrth gopïau
  • Y boddhad o gynyddu incwm eich siop leol
  • Cyfle i weithio ar fenter eich hun yn ogystal â bod yn rhan o dîm

Buddion Ychwanegol

  • Cewch eich gwerthfawrogi o'r diwrnod cyntaf am fod yn rhan o'n sefydliad a gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl
  • Cyflwyniad personol i’r siop
  • Y cyfle i weithio yn rhan o dîm bach cydlynol gyda phobl o'r un anian â chi i:
  • Ddod â syniadau newydd i’r siop
  • Cwrdd â phobl newydd
  • Ymgeisio am swyddi gwag mewnol
  • Dysgu sgiliau newydd neu loywi hen rai a gwella eich CV
  • Ennill hyder a hunan-barch
  • Bydd treuliau rhesymol yn cael eu had-dalu yn unol â pholisi Gofal Canser Tenovus
  • Cinio wedi ei dalu os weithiwch mwy na 4 awr yn unol â'n polisi treuliau
  • 20% oddi ar nwyddau ail-law yn y siop rydych chi'n gweithio ynddi
  • Diodydd a bisgedi am ddim
  • Mynediad at gyfleoedd hyfforddi
  • Amgylchedd cefnogol a chyfeillgar lle gallwch chi gael hwyl, mwynhau eich hun a chael boddhad o wybod eich bod chi'n helpu eraill
  • Yn ogystal â hyn, gall y tîm gwirfoddoli eich cyfeirio at grwpiau eraill yr hoffech chi ymuno, gan gynnwys ein grwpiau codi arian megis, Ffrindiau Gofal Canser Tenovus, a'n corau ‘Sing with Us’

Pwy fyddai’n addas?

  • Rhywun sy'n mwynhau nwyddau ail-law, eitemau casglid, hen bethau a marchnadoedd ailwerthu, ac sy'n benderfynol o gael y pris gorau am eitemau a roddwyd
  • Y boddhad o sicrhau gwerthiant gwerthfawr ar gyfer eich siop leol ac, yn y pen draw, ar gyfer ein hachos
  • Cyfle i weithio ar fenter eich hun yn ogystal â bod yn rhan o dîm

Sut ydw i’n ymgeisio?

Gwnewch gais ar ein gwefan neu ebostiwch volunteer@tenovuscancercare.org.uk neu ffoniwch 029 2076 8850 am fwy o wybodaeth.

Cynwysoldeb:

P'un a ydych chi'n wirfoddolwr, yn gefnogwr, neu'n aelod staff, rydyn ni am i bawb deimlo'n gartrefol yng Ngofal Canser Tenovus. Rydyn ni wedi ymrwymo i fwy o amrywiaeth ymhlith ein pobl er mwyn sicrhau bod gennym ystod eang o brofiadau, sgiliau a safbwyntiau sy'n adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethwn.
Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod Gofal Canser Tenovus yn lle teg a chyfiawn i wirfoddolwyr. Ymdrechwn i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg, waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhywedd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd, mamolaeth, hil (sy'n cynnwys lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig neu genedlaethol), cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, neu gred, neu oherwydd bod rhywun yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Ai chi rydyn ni'n chwilio amdano?

Os yw canser wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei garu, mae ein Llinell Gymorth canser am ddim yno i chi. Ffoniwch 0808 808 1010